Croesawodd Sgil Cymru 4 prentis creadigol newydd mis yma ar ein cynllun Prentisiaethau Ar Y Cyd. Bydd pob prentis yn cwblhau eu cymhwyster gyda Sgil Cymru, tra’n gweithio am flwyddyn i gwmniau wahanol ar draws Cymru.
Mae Prentisiaeth Ar Y Cyd yn gyfle ardderchog i bobl ddod mewn i’r diwydiant, ac i gael blas ar sut mae’r sector wir yn gweithio, gan y bydd y prentis yn symud o gwmni i gwmni, yn ddibynnol ar hyd y cynhyrchiad.
Rydym yn edrych ymlaen ar hyfforddi ein grŵp cyntaf Prentisiaid Ar Y Cyd yn y diwydiant Creadigol!
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cyflogi prentis? Ffoniwch y swyddfa ar 07843 779 870 neu cliciwch y linc yma am fwy o wybodaeth!