Croeso i Bedwar Trydanwr i’r Cynllun Camu Fyny

Sgil Cymru yn croesawu 4 trydanwr domestig a masnachol i’r cynllun Camu Fyny.

Mae Camu Fyny yn gyfle prin i weithwyr proffesiynol sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant i symud ymlaen yn eu gyrfa, a hefyd ar gyfer y rhai sydd yn arbenigwyr cymwysedig sydd eisiau gweithio ym myd teledu. Bydd y cynllun hyfforddiant yn cael ei deilwra i’r unigolyn yn ôl eu anghenion, a bydd pob cyfranogwr yn ymgymryd â lleoliad neu gwrs yn para hyd at 10 wythnos, yn derbyn lwfans hyfforddi ar gyfer y cyfnod cyfan.

Yn dilyn yr angen a arweinir gan y diwydiant a amlygwyd gan Sgrin Cymru/ Llywodraeth Cymru, mae Sgil Cymru wedi recriwtio 4 o drydanwyr domestig a masnachol profiadol i gamu ymlaen yn eu gyrfa trwy ennill profiad fel Trydanwr yn y diwydiant teledu.

Dan arweiniad trydanwyr profiadol y diwydiant bydd yr hyfforddeion yn mynychu gweithdai ymarferol fydd  yn eu dysgu  am y cit arbenigol, sut i ymddwyn ar set a hefyd iechyd a diogelwch ar set deledu. Er mwyn eu paratoi am y byd llawrydd ar ôl y cynllun, bydd yr hyfforddeion yn mynychu gweithdy undydd lle y byddan nhw yn creu CV i’r diwydiant cyfryngau.

Yn ogystal â’r gweithdai bydd yr hyfforddeion yn gweithio ar gynyrchiadau drama BBC Cymru Wales a Stiwdio Blaidd Cymru am gwpl o wythnosau. Trwy adeiladu ar eu sgiliau trydanol eang byddant yn defnyddio’r sgiliau a ddysgwyd ar y cynllun i ddechrau gyrfa llawrydd o fewn y diwydiant ar y cyd gyda’u gyrfa drydanol ddomestig/ masnachol.

Dyma pam wnaeth ein hyfforddeion ymgeisio i’r cynllun:

Craig Parker – Gwynedd
Dewisais ymgeisio er mwyn datblygu fy mhrofiad ymhellach ac i ehangu ar fy ngwybodaeth am y diwydiant cyfryngau.

 

 

 

John Jones – Abertawe
Mae’n gyfle da i ddatblygu fy ngyrfa mewn sector newydd gan ddysgu sgiliau newydd. Hefyd, mae’r diwydiant adloniant yn ddiwydiant diddorol a chyffrous i geisio gweithio ynddo.

 

 

 

Richard Baldwin – Pontyclun
Ymgeisiais am y rhaglen er mwyn  ehangu rhagolygon fy musnes, ennill gwybodaeth a phrofiad yn y diwydiant Teledu a Ffilm yn ogystal â phrinder y diwydiant.

 

 

 

Simon Jeffreys – Abertawe
Mae gweithio fel trydanwr y cyfryngau yn swnio fel cyfle cyffrous i ymestyn fy mhrofiad trydanol a newid cyfeiriad fy ngyrfa i mewn i ddiwydiant cyffrous.

 

 

 

Am gamu fyny yn eich gyrfa? P’un a ydych yn Ysgrifennydd Cynhyrchu eisiau camu fyny at Gydlynydd Cynhyrchu, neu AD sydd eisiau symud i fyny gradd, rydym am glywed gennych. Dwedwch wrthym beth sydd angen arnoch a pham.

Anfonwch hyd at 200 o eiriau am eich hun a chopi o’ch CV at lisa@sgilcymru.com.