Cwrdd a Prentisiaid CRIW newydd!

Yn ddiweddar, rydym wedi recriwtio 7 prentis CRIW newydd; 3 yn ne Cymru a 4 yng ngogledd Cymru. Y prentisiaid yw:

Ella Taylor,
Jack Osman-Byrne,
Jason Barnes,
Cai Pritchard,
Cynan Roberts,
Fiorella Wyn Roberts,
Huw Ellis Hughes.

Buodd nifer o’n prentisiaid newydd yn rhan o brosiectau ‘It’s My Shout’ yn y gorffennol ac roedd Jason a Jack hefyd yn rhan o gynllun ‘Foot in the Door’ Ffilm Cymru Wales. Mae’n galonogol iawn i weld bod y prosiectau yma yn ysbrydoli unigolion i barhau gyda hyfforddiant pellach yn y diwydiant ac mae’n bleser i’w croesawu nhw i gyd fel prentisiaid CRIW Sgil Cymru eleni!

Dyma fidio yn gyflwyno’r prentisiaid newydd: