
Mae Sgil Cymru yn trefnu Cyrsiau Arolygydd Sgript ar y dyddiadau canlynol:
- Awst 7 – 10 (10:30-13:00). Ar-lein ac am ddim. Iaith Gymraeg.
- Hydref 16 – 19 (10:30-13:00). Ar-lein ac am ddim. Dwyieithog.
- Tachwedd 13 – 16 (10:30-13:00). Ar-lein ac am ddim. Iaith Saesneg.
Nodwch bod y cyrsiau yma ar gael i rheiny sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru yn unig.
I ymgeisio, anfonwch eich CV i help@sgilcymru.com
BETH FYDDWN NI’N DYSGU O’R CWRS HWN?
- Beth sydd yn eich cit?
- Darlleniad cychwynnol sgript i’w ddadansoddi
- Torri sgript i lawr, gan gynnwys cyfrif tudalen ac amser a’r dadansoddiad meistr
- Amseru sgript
- Llechi – y System Americanaidd a’r System Brydeinig
- Sefydlu ar gyfer y diwrnod
- Tramlinellau
- Darluniau a diagramau
- Parhad – gweithredu cyfatebol a pharhad cynyddol
- Taflenni Parhad
- Taflenni adroddiadau dyddiol gan gynnwys Log Dyddiol y Golygydd, logiau WT a logiau VFX ac eraill
- Rheolau sylfaenol gramadeg ffilm a theledu
- Maint fframiau cyfatebol
- Y Llinell 180-gradd
- Nodi Cod Amser
- Lluniau dilyniant – pryd a ble
Bydd cyfle i un ymgeisydd i gael profiad gwaith gyda tâl ar gynhyrchiad/iadau am hyd at 10 wythnos ar ddiwedd y cwrs felly peidiwch a cholli allan ar y cyfle arbennig yma!