Cyrsiau Arolygydd Sgript

Mae Sgil Cymru yn trefnu Cyrsiau Arolygydd Sgript ar y dyddiadau canlynol:

  • Awst 7 – 10 (10:30-13:00). Ar-lein ac am ddim. Iaith Gymraeg.
  • Hydref 16 – 19 (10:30-13:00). Ar-lein ac am ddim. Dwyieithog.
  • Tachwedd 13 – 16 (10:30-13:00). Ar-lein ac am ddim. Iaith Saesneg.

Nodwch bod y cyrsiau yma ar gael i rheiny sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru yn unig.

I ymgeisio, anfonwch eich CV i help@sgilcymru.com

BETH FYDDWN NI’N DYSGU O’R CWRS HWN?

  • Beth sydd yn eich cit?
  • Darlleniad cychwynnol sgript i’w ddadansoddi
  • Torri sgript i lawr, gan gynnwys cyfrif tudalen ac amser a’r dadansoddiad meistr
  • Amseru sgript
  • Llechi – y System Americanaidd a’r System Brydeinig
  • Sefydlu ar gyfer y diwrnod
  • Tramlinellau
  • Darluniau a diagramau
  • Parhad – gweithredu cyfatebol a pharhad cynyddol
  • Taflenni Parhad
  • Taflenni adroddiadau dyddiol gan gynnwys Log Dyddiol y Golygydd, logiau WT a logiau VFX ac eraill
  • Rheolau sylfaenol gramadeg ffilm a theledu
  • Maint fframiau cyfatebol
  • Y Llinell 180-gradd
  • Nodi Cod Amser
  • Lluniau dilyniant – pryd a ble

Bydd cyfle i un ymgeisydd i gael profiad gwaith gyda tâl ar gynhyrchiad/iadau am hyd at 10 wythnos ar ddiwedd y cwrs felly peidiwch a cholli allan ar y cyfle arbennig yma!