Cwrs Cydlynydd Cynhyrchu ScreenSkills mewn cysylltiad â Sgil Cymru

Mae cynnwys y cwrs yma – a gefnogir gan gronfa Sgiliau Ffilm ScreenSkills gyda chyfraniadau gan gynyrchiadau ffilm yn y DU – yn rhoi sylfaen drylwyr i arferion gwaith Cydlynydd Cynhyrchu, trwy ddull damcaniaethol. ac yna efelychiad ymarferol o gydlynu cynhyrchu prosiect ffilm, yn seiliedig ar sgript ffilm realistig. Gan ddefnyddio’r sgript hon, bydd yr hyfforddeion yn cael eu tywys trwy gyn-gynhyrchu, prif ffotograffiaeth ac i ôl-gynhyrchu.

Dulliau cyflwyno:

Cyflwynir y cwrs trwy weithdai a gynhelir dros ddwy wythnos pump diwrnod yn Pinewood Studio Cymru yng Nghaerdydd. Mi fydd ddisgwyl i’r holl gyfranogwyr fynychu pob diwrnod o hyfforddiant er mwyn cyflawni pob un o’r canlyniadau dysgu. Yn ystod y pythefnos, bydd sesiynau gyda siaradwyr gwadd yn cael eu hintegreiddio i gynnwys y cwrs er mwyn adeiladu rhwydweithiau a rhoi mewnwelediad pellach i rôl y Cydlynydd Cynhyrchu yn ystod y broses ddysgu.

Tiwtor y cwrs

Dathyl Evans

Mae Dathyl Evans wedi gweithio yn y byd cynhyrchu ers pum mlynedd ar hugain. Mae ei chefndir mewn Cynhyrchu fel Cydlynydd, gan weithio ar gyfresi drama amrywiol ar gyfer y BBC a S4C lle mae ei chredydau yn cynnwys cyfresi rhwydwaith amser brig fel Casualty a Dr Who. Mae Dathyl wedi bod yn Rheolwr Cynhyrchu ers 2004, gan weithio’n bennaf ym maes Drama deledu a ffilm, ond hefyd ar draws ystod eang o genres eraill gan gynnwys, dogfennau arsylwi arloesol, rhaglenni dogfen traddodiadol a rhaglenni adloniant ysgafn amrywiol. Mae ei chredydau Rheolwr Cynhyrchu yn cynnwys – addasiad ffilm o ‘Under Milk Wood’ gyda Rhys Ifans a Charlotte Church; ‘One Born Every Minute’ y gyfres poblogaidd Channel 4; ‘Denmark’ gyda Ralph Spall wedi’i osod yn Nenmarc a Chymru a’r gyfres doucmentary ‘Deserts’ cyd-gynhyrchiad gyda National Geographic, France Télévisions a Green Bay o Gaerdydd, a ffilmiwyd yn rhai o’r anialwch caletaf ledled y byd. 

Sue Jeffries

Sue Jeffries yw Rheolwr Gyfarwyddwr Sgil Cymru. Mae Sue yn arwain fel prif asesydd ar dair rhaglen prentisiaeth yn y cyfryngau, hi yw’r prif gysylltiad gyda’r cyflogwyr a’r mentor i’r aseswyr llawrydd sydd yn rhan o’r tîm.  Mae Sue hefyd yn datblygu, dyfeisio ac yn arwain gwahanol gyrsiau ar gyfer y rhai sydd yn barod yn gweithio yn y diwydiannau creadigol. Mae gan Sue dros dri deg mlynedd o brofiad yn y maes cynhyrchu teledu a ffilm.  Wedi graddio o Brifysgol Cymru, Aberystwyth, ymunodd Sue ậ HTV fel Cynorthwydd Cynhyrchu dan hyfforddiant gan weithio ei ffordd i fyny drwy’r swyddi yn yr adran gynhyrchu nes cyrraedd y rôl o Gynhyrchydd a Chyfarwyddwr.  Aeth Sue yn llawrydd yn 1989 ac fe weithiodd ar brosiectau ffilm a theledu fel cynhyrchydd a chyfarwyddwr am fwy na deunaw mlynedd, gan weithio y rhan fwyaf ar ddrama, rhaglenni plant ac adloniant, drwy gydol y DU ac Ewrop.

Fe gafodd Sue ei hyfforddi fel Cynghorwr Gyrfaoedd i’r diwydiannau creadigol gan ScreenSkills (a elwid gynt fel Creative Skillset).  Fe gyfunodd y rôl hon gydag un o Reolwr Cynhyrchu i BBC Cymru Wales tra’r roedd y BBC yn adeiladu a sefydlu y Pentref Drama ym Mhorth Teigr Caerdydd.  Tra yno fe weithiodd gyda chynyrchiadau fel Casualty, Doctor Who, Pobol y Cwm ac Upstairs Downstairs wrth hwyluso y symud i mewn i’w stiwdios newydd.

Gydag ystod eang o brofiad, a rhwydwaith anferth o gysylltiadau yn y byd cyfryngol, mae gan Sue yr enw o fewn y diwydiant o fod yn rhywun sydd wastad yn hapus i roi o’i phrofiad, ac i gynnig unrhyw gyngor i rywun sydd yn chwilio am gymorth yn yr amgylchedd heriol sydd ohoni.

Pryd mae’r cwrs?

Wythnos cyntaf: 4ydd-8fed o Dachwedd, 2019

Ail wythnos: 11eg-15fed o Dachwedd, 2019

Ble fydd y cwrs yn cael ei gynnal?

Bydd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal yng nghanolfan hyfforddi Sgil Cymru yn Pinewood Studio Cymru.

Faint bydd y cwrs yn gostio?

£350

Cyflwyno eich cais

Anfonwch eich CV a 250 o eiriau am pam rydych chi moen cymryd rhan yn y cwrs yma i help@sgilcymru.com

Cefnogir y cwrs yma gan gronfa Sgiliau Ffilm ScreenSkills gyda chyfraniadau gynyrchiadau ffilm yn y DU