9.30 Bore Llun ac mae Cwrs Golygu Sgript Sgil Cymru yn cychwyn. Rydyn ni’n cael ein taflu i mewn gydag Anna yn gyntaf ac yna Kate. Rydyn ni’n cael gwybod am ein rhan ni wrth ddarllen sgript, sut na allwn ni helpu ond dod â’n hunain i’r broses ynghyd â phopeth sy’n ein gwneud ni yn ni … gall hyd yn oed bod yn llwglyd effeithio ar y ffordd rydych chi’n darllen sgript. Mae Anna’n awgrymu ein bod ni’n cymryd Prawf Tuedd Anymwybodol – i gyd am ddim – yma. Diddorol.
Wrth ddarllen y tudalennau cyntaf o sawl sgript lwyddiannus, mae cwestiynau’n codi:
Beth sy’n ein cadw ni i ddarllen sgript neu wylio ffilm neu ddrama?
Beth sy’n gwneud i ni droi cefn ar un?
Sut mae mynd o fod yn chwilfrydig am gymeriad i fod eisiau iddyn nhw lwyddo?
A chymeriad yw popeth. Daw’r cyfan yn ôl i gymeriad.
A threfn.
Rhaid i sgriptiau fod yn ddidrugaredd o effeithlon – ni all unrhyw beth fod yno nad yw’n gwneud rhywbeth.
Hawdd.