Cyflogwch Brentis gyda Sgil Cymru

Mae Sgil Cymru nawr yn chwilio am gyflogwyr ar gyfer dau brentisiaeth lefel uwch newydd . Bydd y rhaglen pymtheg mis yn dechrau ym mis Mai eleni.

Os yw eich cwmni yn ymwneud ag unrhyw agwedd o farchnata, hysbysebu neu PR – neu os oes gennych adran farchnata mewn cwmni mwy o faint – yna gallai’r Brentisiaeth Uwch mewn Hysbysebu a Marchnata Cyfathrebu fod yn ffordd ddelfrydol i chi recriwtio rhywun mewn rol creadigol, digidol neu rôl weithredol iau.

Mae’r Brentisiaeth Uwch mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol (Lefel 4 – llwybr Cyfryngau Rhyngweithiol) yn addas ar gyfer cwmnïau sy’n chwilio i gyflogi rhywun mewn rôl a allai gynnwys datblygu app, rheoli cyfryngau cymdeithasol neu ddylunio ddigidol greadigol.

Gyda’r dyddiad dechrau dim ond ychydig wythnosau i ffwrdd, cysylltwch â ni nawr i gael gwybodaeth am sut i gyflogi prentis ar un o’r cynlluniau hyn.

Be the first to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published.