‘Cyflwyniad i Ddatblygu Sgript: sgiliau golygu’ gyda BBC WritersRoom

Mae’r cwrs ar-lein 5 wythnos hwn yn arwain dysgwyr trwy’r sgiliau allweddol, meddal ac ymarferol, sy’n ymwneud â datblygu sgriptiau, ac yn eu gadael yn meddu ar becyn offer y golygydd sgriptiau.

I ymgeisio, gyrrwch CV i help@sgilcymru.com erbyn 12 o’r gloch ar y 11eg o Fai.

Bydd pob wythnos yn cael ei rhannu rhwng cyflwyno ar-lein a thasgau sgriptiau i’w cyflawni gartref lle bydd gofyn i chi ddarllen, ystyried, dadansoddi ac anodi tudalennau sgript neu sgriptiau cyfan. Mae ‘sgript’ yma yn golygu naill ai ffilm sengl fer neu hir nodwedd, drama sengl ar y teledu, cyfres deledu neu ddrama ar y we.

Mae’r cwrs wedi’i anelu at weithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn sectorau cysylltiedig ond nad ydynt ar hyn o bryd yn gweithio ym maes datblygu sgript a stori mewn ffilm neu deledu. Bydd blaenoriaeth i ymgeiswyr sydd yn byw neu’n gweithio o fewn Prifddinas Ranbarth Caerdydd

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i atgyfnerthu a chanolbwyntio sgiliau presennol, i osod allan ac addysgu elfennau allweddol o ddatblygu sgript sgrin; i egluro sector sy’n aml yn ddryslyd, ac i ddefnyddio fformat gweithdy trylwyredd i ddatblygu profiad presennol. Byddwch yn dysgu’r sgiliau sydd eu hangen i gydweithio wrth ysgrifennu a datblygu sgript sgrin.

Bydd pob wythnos yn cynnwys:

    6 awr o gyflenwi gan ddau arbenigwr diwydiant gyda phrofiad gwaith cyfunol o dros 50 mlynedd mewn datblygu ffilm a theledu;
    1 diwrnod yn astudio tuag at Ddyfarniad ILM lefel 2: Datblygu eich hun fel Aelod Effeithiol o Dîm;
    Hunan-astudio lle bydd gofyn i gyfranogwyr ddarllen, ystyried, torri i lawr neu anodi tudalennau sgript neu sgriptiau cyfan.

Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn derbyn lwfans hyfforddi wythnosol o £150. Os oes gennych chi gyfyngiadau ariannol sy’n eich rhwystro rhag mynychu’r academi, mae cymorth ariannol ar gael hefyd (e.e. tuag at ofal plant, costau teithio)*.
*Gall y lwfans hyfforddi hwn effeithio ar unrhyw fudd-daliadu rydych yn eu cael.

Be fyddech chi’n ei ddysgu?

    Sut i ddarllen sgript
    Ysgrifennu adroddiad sgript
    Adolygu adroddiadau sgript mewn grŵp
    Stori. Sut i ddeallt a dehongli sgript.
    ‘Tools of the trade’
    Cymeriad a gwrthdaro
    Torri sgript lawr
    Triniaethau, amlinelliadau, beiblau a chynlluniau peilot
    Themâu
    Gweithio ym maes datblygu
    Dyfarniad Lefel 2 ILM: Datblygu eich hun fel Aelod Tîm Effeithiol

Gofynion mynediad
2 flynedd o brofiad yn gweithio ym maes datblygu sgriptiau Teledu neu Ffilm; Cynhyrchu neu debyg.

Am wybod beth yw batrwm y cwrs? Dyma chi:

Wythnos 1)
Dydd Llun 16eg o Fai – Sesiwn Golygu Sgript
Dydd Mercher 18fed o Fai – Sesiwn Golygu Sgript

Wythnos 2)
Dydd Llun 23ain o Fai – Sesiwn Golygu Sgript
Dydd Mercher 25ain o Fai – Sesiwn Golygu Sgript
Dydd Iau 26 Mai – elfen cymhwyster ILM (Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth).

Wythnos 3)
Dydd Llun 30ain o Fai – Sesiwn Golygu Sgript
Dydd Mercher Mehefin 1af – sesiwn Golygu Sgript

Wythnos 4)
Dydd Llun 6ed o Fehefin – Sesiwn Golygu Sgriptiau
Dydd Iau 7fed o Fehefin – ILM
Dydd Mercher 8fed o Fehefin – Sesiwn Golygu Sgript
Dydd Gwener 10fed o Fehefin – ILM

Wythnos 5)
Dydd Llun 13eg o Fehefin – Sesiwn Golygu Sgriptiau
Dydd Mercher 15fed o Fehefin – Sesiwn Golygu Sgriptiau

Wythnos 6)
Cyfweliadau gyda BBC Writers Room – amseroedd ac union ddyddiadau i’w cadarnhau