Cyfweld â Phrentis – Eugenia Taylor

Er mwyn dathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2020 rydym wedi cyfweld â 5 o’n cyn prentisiaid sydd wedi llwyddo yn eu gyrfaoedd yn dilyn eu prentisiaeth. Ein ail gwestai yn y gyfres yw Eugenia Taylor.

Enw:                                         Eugenia Taylor
Oedran:                                   22
O:                                              Caerdydd
Cyflogwr Prentis:                  ITV Cymru Wales
Swydd Teitl Prentis:             Prentis Cyfryngau Creadigol a Digidol

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn y brentisiaeth?

Cyn y brentisiaeth, roeddwn yn gweithio fel marchnatwraig ar-lein yn Escentual.com, sef safle manwerthu ar-lein ar gyfer cynhyrchion harddwch. Roeddwn i’n gweithio yn y maes manwerthu ers pan o’n i’n 16 oed, hyd at y diwrnod dechreuais i weithio I ITV.

Pam oeddech chi moen wneud prentisiaeth?

Roeddwn i’n chwilio am swydd achos benderfynais i ‘mod i am adael y byd manwerthu a dechrau gyrfa newydd. Roeddwn eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd ac mae gen i ddiddordeb mawr erioed mewn teledu, ffilm a’r cyfryngau felly meddyliais byddai prentisiaeth yn ITV yr union beth roeddwn yn edrych amdano, a’r her berffaith. 

Beth oedd cyfrifoldebau’r swydd brentis?

Roedd y swydd yn amrywiol iawn. O’r dechrau un, cefais fy nhaflu mewn i ddysgu am swyddi Arbenigwyr Cynhyrchu, fel Cynorthwyydd Cynhyrchu, Sain, Autocue, Rheolwr Stiwdio a Gweithredwr Camera Stiwdio ar gyfer bwletinau newyddion amser cinio a chwech o’r gloch.  Cefais y dasg hefyd o greu fy fideos ar-lein fy hun, gan roi cyfle i mi ddysgu sut i olygu gan ddefnyddio AVID, a deall sut i osod camera ar gyfer cyfweliad. Galluogodd hyn i fi ddeall pa fath o siots sydd eu hangen i greu rhediad syml.

Ar ba raglenni/prosiectau wnaethoch chi weithio?

Cefais y cyfle i weithio o fewn yr adran raglenni, a chysgodi un o’r cynhyrchwyr wrth iddi wneud cyfres dair rhan o’r enw “Station 20”, oedd yn dilyn hynt a helynt gorsaf dân yn y Bari. Gosodais y camera ar gyfer rhai o’r cyfweliadau, a sicrhau hefyd fod y person o fewn y ffrâm trwy gydol y cyfweliad.

Wnaethoch chi wynebu unrhyw anawsterau tra’n gwneud y brentisiaeth?

Roedd ceisio cadw cydbwysedd rhwng swydd llawn amser ac aseiniadau ar gyfer y brentisiaeth yn anodd ar brydiau. Fodd bynnag, drwy gwblhau’r gwaith gartref cyn gynted â phosib neu yn ystod cyfnodau tawel, llwyddais i ddod i ben â phopeth.

Beth ddigwyddodd wedi i chi gwblhau eich prentisiaeth?

Pan wnes i gwblhau fy mhrentisiaeth, roeddwn i eisoes yn gweithio ers tri mis yn fy rôl newydd fel ymchwilydd dan hyfforddiant, ar un o gomisiynau rhwydwaith newydd ITV Wales. ‘Roedd yn dipyn o sioc gan i mi gael llawer o gyfrifoldeb yn gyflym iawn o’i chymharu â’r brentisiaeth, ble doeddwn i ddim ond yn cysgodi ac yn dysgu.

Ydych chi wedi newid/tyfu o ganlyniad i’r brentisiaeth?

Yn ddi-os, helpodd hyn fi i dyfu a dysgu bod yn hyblyg. Roeddwn yn falch iawn fod y newid hwn wedi digwydd yn ystod, ac yn fuan wedi fy mhrentisiaeth, gan ‘mod i’n cael cefnogaeth gyson gan y tiwtoriaid yn Sgil Cymru, yn ogystal â fy rheolwraig yn ITV. Roedd hi’n ymwybodol o fy mhwysau gwaith a chefais i gyfarfodydd rheolaidd gyda hi a gyda Nadine, fy mentor Sgil Cymru.

Beth yw’r cam nesaf yn eich gyrfa?

Hoffwn ddatblygu fy sgiliau ymhellach, gan obeithio parhau â hyfforddiant camera, yn ogystal â chael mwy o brofiad newyddiadurol fel ymchwilydd. Dwi eisiau parhau i weithio gyda’r adran raglenni yn ITV a byddwn wrth fy modd bod yn Gynorthwyydd Cynhyrchu un diwrnod, a chynhyrchu fy rhaglen fy hun.