Er mwyn dathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2020 rydym wedi cyfweld â 5 o’n cyn prentisiaid sydd wedi llwyddo yn eu gyrfaoedd yn dilyn eu prentisiaeth. Ein gwestai gyntaf yn y gyfres yw Gwenno EllisOwen.
Enw: Gwenno Ellis Owen
Oedran: 18
O: Amlwch, Ynys Môn
Cyflogwr Prentis: Boom Cymru
Swydd Teitl Prentis: Prentis Cydlynydd Cynyrchu
Beth oeddech chi’n ei wneud cyn y brentisiaeth?
Cyn y brentisiaeth, roeddwn yn ddisgybl ysgol, yn y chweched dosbarth.
Pam oeddech chi moen wneud prentisiaeth?
Es i am y brentisiaeth gan ei bod yn rhoi cyfle i mi gwblhau cymhwyster lefel 3, tra’n ennill cyflog ar yr un pryd.
Beth oedd cyfrifoldebau’r swydd brentis?
Roedd fy swydd brentis yn ymwneud â nifer o wahanol ddyletswyddau. Roeddwn I’n gwneud llawer o waith papur a chlirio cerddoriaeth ar gyfer rhaglenni ffeithiol/byw a hefyd eitemau digidol oedd yn mynd ar wefannau cymdeithasol. Roeddwn hefyd yn gweithio fel rhedwr ar lu o gynyrchiadau oedd yn cynnwys darllediadau byw.
Ar ba raglenni/prosiectau wnaethoch chi weithio?
Rydw i wedi bod yn lwcus o gael gweithio ar ystod eang o raglenni. Gweithiais fel rhedwr ar raglen byw “Stwnsh Sadwrn” bob bore Sadwrn. Rydw i hefyd wedi cael gweithio ar raglenni ffeithiol fel Prosiect Pum Mil.
Wnaethoch chi wynebu unrhyw anawsterau tra’n gwneud y brentisiaeth?
Yr unig anhawster y gwnes i wynebu yn ystod fy mhrentisiaeth oedd gorfod byw yn bell o adra. Ond yn lwcus, mi wnes i oresgyn hyn drwy gyfarfod pobol wych drwy Sgil Cymru – a rhywun y rydw i nawr yn alw’n ffrind gorau
Beth ddigwyddodd wedi i chi gwblhau eich prentisiaeth?
Ar ôl cwblhau fy mhrentisiaeth, roeddwn yn ddigon lwcus i gael cynnig cytundeb arall gan Boom tan ddiwedd mis Chwefror ond erbyn nawr mae wedi cael ei ymestyn tan fis Gorffennaf, felly mae’n rhaid bod i’n gwneud rhywbeth yn iawn!
Ydych chi wedi newid/tyfu o ganlyniad i’r brentisiaeth?
Rwy’n credu mod i’n lot fwy hyderus nawr o gymharu i ddechrau’r brentisiaeth. Rydw i hefyd yn llawer mwy annibynnol yn bersonol, a hefyd yn y gweithle.
Beth yw’r cam nesaf yn eich gyrfa?
Dydw i ddim yn siŵr beth yw’r cam nesaf yn fy ngyrfa. Rydw i’n mwynhau gweithio i Boom ar hyn o bryd. Ond rydw i hefyd yn agored i drio pethau newydd, gan fy mod i’n licio