Cyfweld â Phrentis – Jesse Edwards

Er mwyn dathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2020 rydym wedi cyfweld â 5 o’n cyn prentisiaid sydd wedi llwyddo yn eu gyrfaoedd yn dilyn eu prentisiaeth. Ein trydydd gwestai yn y gyfres yw Jesse Edwards.

Enw:                                         Jesse Edwards
Oedran:                                   22
O:                                              Ebbw Vale
Cyflogwr Prentis:                  BBC Radio Cymru
Swydd Teitl Prentis:             Prentis Talent Newydd

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn y brentisiaeth?

Cyn y brentisiaeth, roeddwn i’n weldiwr.

Pam oeddech chi moen wneud prentisiaeth?

Roeddwn eisiau’r brentisiaeth hon am y byddai’n gam gynta’ tuag at yrfa yr oeddwn am ei dilyn.

Beth oedd cyfrifoldebau’r swydd brentis?

Roedd fy swydd brentis yn golygu bod yn ymchwilydd ar draws holl raglenni dyddiol Radio Wales.

Ar ba raglenni/prosiectau wnaethoch chi weithio?.

Yn ystod y brentisiaeth, roeddwn i’n dod o hyd i gyfranwyr a chynnwys ar gyfer rhaglenni fel “3 In 30” a “How to” ar raglen Wynne Evans. Roeddwn hefyd yn gwneud y canlynol:

• Gweithio fel ymchwilydd ar sioe phone-in mwya’ poblogaidd Cymru fel ymchwilydd, yn gyfrifol am drefnu gwesteion ac ysgrifennu briffiau a sgriptiau i amserlen lem iawn.

• Gweithio yn y stiwdio ar draws yr holl raglenni dyddiol (Phone-In, Wynn Evans ac Eleri Siôn), nodi amseriadau a gwneud yn siŵr fod pethau’n rhedeg mor llyfn â phosib yn y stiwdio tra roeddem ar yr awyr. 

• Ateb y ffôn ar y penwythnosau ar gyfer sioeau fel Money for Nothing a Carol Vorderman.

Wnaethoch chi wynebu unrhyw anawsterau tra’n gwneud y brentisiaeth?

Wnes i wynebu dipyn o anhawsterau yn ystod fy mhrentisiaeth, o ddelio gyda pwysau gwaith i “impostor syndrome”. Llwyddais i orchfygu fy anhawsterau drwy’r awydd i lwyddo a pheidio â cholli’r cyfle a gefais. 

Beth ddigwyddodd wedi i chi gwblhau eich prentisiaeth?

Wedi cwblhau fy mhrentisiaeth, parheais i weithio gyda Radio Cymru ar draws eu holl raglenni.

Ydych chi wedi newid/tyfu o ganlyniad i’r brentisiaeth?

O ganlyniad i’r brentisiaeth, dwi wedi tyfu fel person ac wedi dod yn unigolyn mwy hyderus a chyflawn.

Beth yw’r cam nesaf yn eich gyrfa?

Mae cynlluniau i mi gael fy hyfforddi mewn dilyniant dros yr haf. Ond fy ngham nesaf yw cael cytundeb gyda BBC Radio Cymru ac ehangu fy rhwydwaith o gysylltiadau yn y dyfodol.