Er mwyn dathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2019 rydym wedi cyfweld â 5 o’n cyn prentisiaid sydd wedi llwyddo yn eu gyrfaoedd yn dilyn eu prentisiaeth. Ein gwestai olaf yn y gyfres yw Sophie Richards.
Enw: Sophie Richards
Oedran: 26
O: Caerdydd
Cyflogwr Prentis: BBC Cymru Wales
Swydd Teitl Prentis: Prentis Camera
Beth oeddech chi’n ei wneud cyn y brentisiaeth?
Cyn dechrau ar y brentisiaeth roeddwn i’n gweithio mewn tafarn ac yn teithio’r byd.
Pam oeddech chi moen wneud prentisiaeth?
Roeddwn i wastad eisiau gweithio ar set ond doeddwn i byth yn meddwl y bydda fe’n digwydd. Gyda hyn yng nghefn fy meddwl dewisais i ymgeisio am y brentisiaeth gan nad oedd gyda fi unrhyw beth i’w golli.
Beth oedd eich swydd brentis yn ei olygu?
Roeddwn i’n hyfforddai ar gyfer yr adran gamera. Roedd yn cynnwys nifer o gyfrifoldebau a dyfodd dros y flwyddyn ar ôl ennill ymddiriedaeth a phrofiad. Roedd y cyfrifoldebau yn cynnwys newid batris, drefnu’r offer camera trwy gysylltu gyda’r tŷ rhentu, setio lan y camera ar gyfer diwrnod o saethu, glanhau a thrin lensys ayyb.
Ar ba raglenni / prosiectau wnaethoch chi weithio?
Wrth weithio fel prentis wnes i weithio ar Casualty ac roedd yn cynnwys profiadau o fewn y stiwdio ac allan ar leoliad.
Beth ddigwyddodd pan wnaethoch chi gwblhau eich prentisiaeth?
Ar ôl i mi gwblhau fy mhrentisiaeth cefais gynnig i weithio fel Cynorthwy-ydd Camera Llawrydd ar Casualty a dwi wedi parhau i weithio ar y rhaglen, yn rheolaidd dros y 4 blynedd ddiwethaf. O fewn y flwyddyn ddiwethaf rydw i wedi cael siawns i gamu fyny fel Tynnwr Ffocws a dwi wir yn mwynhau’r cyfrifoldebau sydd yn dod gyda’r rôl hwn.
Rydw i wedi bod yn lwcus i gael y siawns i weithio ar gynyrchiadau eraill a hyd yn oed gweithio gyda chamerâu yn y Gemau Olympaidd 2016 yn Rio, Gemau Olympaidd 2018 y Gaeaf yn Ne Korea a gobeithiaf y byddaf yn gweithio yn y Gemau Olympaidd 2020 yn Tokyo.
Roedd y brentisiaeth wedi dechrau fy ngyrfa ac felly wedi bod yn gatalydd i ddod a mi lle rydw i heddiw.
Ydych chi wedi tyfu o ganlyniad i’r brentisiaeth?
Rydw i bendant wedi tyfu fel person o ganlyniad i’r brentisiaeth. Oherwydd natur y diwydiant mae e’n gallu eich ymestyn yn gorfforol ac yn emosiynol ond wnes i ddysgu’n fuan sut i ddelio â sefyllfaoedd anodd.
Beth yw’r cam nesaf yn eich gyrfa?
Ar hyn o bryd rwy’n mwynhau’r hyn rydw i’n ei wneud, felly nid oes gennyf gynlluniau i gamu ymlaen unrhyw bryd yn fuan, ond hoffwn weithio ar ychydig o’m mhrosiectau fy hun yn y dyfodol agos.