Cynllun ‘Troed yn y Drws’ gyda Ffilm Cymru Wales

Rydyn ni wedi bod yn brysur dros yr wythnos diwethaf yn gweithio ochr yn ochr â Ffilm Cymru Wales ar eu cynllun ‘Troed yn y Drws’. Mae Matt Redd wedi bod yn tywys cyfranogwyr trwy hanfodion gweithio ar set ffilm neu deledu, fel y gallant arfogi eu hunain â rhywfaint o wybodaeth cyn eu diwrnod cyntaf. O egluro terminoleg i dorri lawr taflen alwadau; gan roi mewnwelediad i amserlennu i fanylu ar yr amrywiaeth o rolau ar set, mae’r cyfan wedi cael sylw.
Ac i ddilyn gyda sesiwn cwestiwn ac ateb gan arbenigwyr y diwydiant:
Lowri Thomas – Lleoliadau,
Charles Curran – AD,
Llŷr Morus – Cynhyrchiad,
Cat Williams – Gwallt/Colur,
Georgia Smith- Gwisgoedd
a
Lottie McDonell – Adran Gelf.

Os hoffech chi flas o beth yw hi i fod ar set, cymerwch olwg ar fideo Screen Skills yma.