
(Delwedd wedi’i chymryd o ‘Dal y Mellt’ ar S4C – ddim yn eiddo Sgil Cymru)
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Netflix y bydd ddrama teledu Cymraeg S4C/VOX Pictures – ‘Dal y Mellt’, yn dod i’r gwasanaeth ffrydio byd-eang yn y gwanwyn. Mae’r newyddion yma yn gyffrous iawn gan mai hwn yw’r ddrama cyntaf i gael ei ddarlledu gan Netflix yn yr iaith Gymraeg yn unig (gyda is-deitlau Saesneg).
Buodd un o’n gyn-brentisiaid, Arwen Teagle, yn gweithio ar y gyfres wrth hyfforddi gyda Sgil Cymru. Dyma oedd ganddi i ddweud:
“Wnes i weithio ar ‘Dal y Mellt’ fel hyfforddai camera. Roedd y swydd a’r criw yn lyfli a ges i brofiad gwych o weithio ar raglen Gymraeg.”
Llongyfarchiadau mawr i Arwen ac i bawb oedd ynghlwm â’r gynhyrchiad!
Edrychwn ymlaen at ei weld ar Netflix!