Dathliad Sgil Cymru 2023

Ar y 1af o Fawrth, Dydd Gŵyl Dewi, cynhaliwyd noson o ddathlu yn Chapter yng Nghaerdydd er mwyn cydnabod llwyddiant ein prentisiaid dros y blynyddoedd diwethaf.

Yn anffodus, dydyn ni heb ddal dathliad o’r fath ers 2019 o ganlyniadau i gyfyngiadau cofid – felly roedd yna gyffro mawr yn swyddfa Sgil Cymru wrth baratoi!

Cychwynnodd y noson gyda chyfle i sgwrsio yng nghyntedd y Chapter, cyn i bawb symud i’r sinema. Ar ôl gair gan Sue Jeffries a gwylio ein showreel, siaradodd ein gwestai arbennig am y noson – Dawn Bowden MS (Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon) cyn i’r ‘Locketts’ mynd mas i’n gyn-prentisiaid.

Yna, allan i’r cyntedd eto am fwy o rwydweithio, yfed, dal i fyny…a chacen!

Noson wych!

Hoffwn ddiolch i bawb am ymuno gyda ni. Hoffen hefyd diolch ein noddwyr am y noson – Real SFX, Cymru Greadigol, Creative Risk Solutions a Lockett TV & Film Transport.

Mae fideo isod o’r noson a detholiad o luniau. Fe fydd albwm llawn yn cael ei rannu yn fuan!