Diwydiant Yn Galw Am Griw Lleoliadau

Gyda chyllid o Gronfa Sgiliau Ffilm ScreenSkills, bydd Sgil Cymru yn ceisio llenwi’r bwlch sgiliau criw Lleoliadau trwy hyfforddi 12 o weithwyr ffilm ar gwrs pythefnos dwys, dan arweiniad y Rheolwr Lleoliad profiadol Lowri Thomas.

Meddai Lowri Thomas:

Ar hyn o bryd mae prinder go iawn o griw Rheoli’r Lleoliad, yn arbennig, Rheolwyr Uned a Chynorthwywyr Lleoliad. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i symud ymlaen i’ch rôl ddewisol ar ôl dysgu ble mae’r Adran Leoliadau yn cyd-fynd â chynhyrchiad: ennill caniatâd, contractio ar gyfer lleoliad a chanolfannau uned, delio â swyddfeydd ffilm, y cynghorau lleol a’r heddlu. Byddwch yn dysgu am rannu delweddau, cyllidebu, cyrchu canolfannau uned a gofynion diogelwch y cynhyrchiad, trwy gynnwys y gwaith papur gofynnol, gweithdai ymarferol, siaradwyr gwadd a’r cyfle i ymweld â set cynyrchiadau sy’n ffilmio’n lleol.

Yn ogystal ag arbenigedd Lowri, bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno mewn cydweithrediad â siaradwyr gwadd hynod brofiadol sydd wedi gweithio mewn amryw swydd yn yr Adran Lleoliadau. Roedd y siaradwyr gwadd ar gwrs Rheolwr Lleoliad 2017 Sgil Cymru yn cynnwys y Rheolwyr Lleoliad Finlay Bradbury (Spectre, Wonder Woman, The Dark Knight) a Gareth Skelding (Thuer Dark Materials, , Sherlock, Da Vinci’s Demons).

Dywedodd Gareth Skelding:

Bydd cwrs Sgil Cymru yn rhoi mewnwelediad manwl i Reolwyr lleol sydd am wybod sut mae’r adran gyfan yn gweithredu, bydd hyn o fudd mawr iddynt wrth ymuno â thîm lleoliad ar brosiect.

Meddai Lowri Thomas:

Mae Rheoli Lleoliad yn waith gwych, mae’n gyffrous ac amrywiol ond mae ‘na gymaint mwy iddi na ‘sgowtio’ a sicrhau’r lleoliad cywir. Ar y cwrs pythefnos yma , bydd y cyfranogwyr yn mynd trwy’r broses gyfan o ddarlleniad cychwynnol y sgript neu friff i glirio ac adfer ar ‘wrap’.

Oes gennych chi diddordeb yng ngwaith Rheolwr Lleoliadau ond ‘dych chi ddim yn siwr ble i ddechrau? Gyda’r cwrs dwys pythefnos yma, byddwch chi’n dysgu gan yr arbenigwyr, popeth o ‘sgowtio’ i saethu. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth ac i ymgeisio. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw ddydd Llun 21 Ionawr 2019.