
Cyn y brentisiaeth, gweithiodd Barry fel darlunydd graffeg llawrydd, a cafodd y cyfle i gymryd rhan mewn prosiect profiad gwaith yn y BBC ym Mhorth y Rhath. Tra roedd Barry yn cwblhau ei brofiad gwaith, awgrymodd cyn-prentis, sydd yn gweithio fel Cyfarwyddwr Celf ar Pobol y Cwm, y dylai Barry geisio amr brentisiaeth. Roedd Barry ar yr adeg hynny eisiau bod yn Gyfarwyddwr Celf, ac fe welodd mai prentisiaeth oedd y cyfle perffaith i ddysgu sgiliau newydd ac i adeiladu ar ei brofiad er mwyn gwireddu’r uchelgais yma. .
Gweithiodd Barry ar sawl cynhyrchiad gan gynnwys Dr Who, Casualtya Pobol y Cwmyn ystod ei amser yn y BBC. Oherwydd fod Barry ynhollol fyddar, roedd angen addasiadau er mwyn iddo fedru gweithio’n saff a hyderus yn y stiwdio. Er enghraifft, yn un o’r stiwdios lle’r oedd Barry yn gweithio, roedd yna gloch yn canu er mwyn dangos pryd roedd recordio yn dechrau. Yn amlwg, roedd hyn yn anodd i berson hollol fyddar, felly roedd rhaid cael addasiadau.. Penderfynwyd ychwanegu golau at y gloch fel bod Barry yn gwybod pryd oeddent yn ffilmio, yn ogystal â sicrhau bod yna system ‘buddy’ gydag aelod arall o staff hefyd yn sicrhau bod Barry yn gwybod bod recordio ar fin digwydd. Roedd y BBC yn hynod o gefnogol trwy’r broses hon.
Wedi cwblhau ei brentisiaeth, penderfynodd Barry ddysgu gyrru er mwyn gwella ei siawns o gael swyddi o fewn y diwydiant, gan ei fod dal i fyw ym Mhont-y-pŵl ac angen teithio yn ol ac ymlaen yn ystod oriau anghymdeithasolr. Ar hyn o bryd, mae Barry yn gweithio fel Addurnwr Celfi Iau o fewn Adran Gelf y cynhyrchiad newydd ‘Industry’ i HBO sy’n cael ei saethu gan Bad Wolf.
Dwed Barry
Mae Barry
“Dwi’n
gwybod fod geni ffordd belli fynd eto ,ond heboch chiyn Sgil Cymrufyddwn i ddim lle rydw i heddiw . Rydych chigyd yn wych ,rydych yn newid bywydau am ygorau …”