Yn dilyn ei lwyddiant yng Ngwobrau’r QSA 2018 mae Thomas Watkins, cyn prentis lefel 4 Sgil Cymru, wedi derbyn enwebiad yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2018.
Mae Thomas wedi cyrraedd y rownd derfynol yng nghategori Prentis Uwch y Flwyddyn yn ochr yn ochr â Lynette Davies o Pathways Training – NPTC a Daren Chesworth o Goleg Cambria. Cyhoeddir yr enillydd yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2018 yng Ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd ar ddydd Gwener 9fed Tachwedd.
Cwblhaodd Thomas Brentisiaeth Lefel 4 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol (Llwybr Cyfryngau Rhyngweithiol) trwy’r darparwr hyfforddiant, Sgil Cymru. Wrth gwblhau ei brentisiaeth fe weithiodd Thomas fel Prentis Amlgyfrwng gyda Whitehart Multimedia yn Devauden, Cas-gwent.
Dwedodd Thomas:
Doedd y swydd ddim yn un arferol lle’r oedd angen gwisgo siwt a thei. Er ei fod yn gwmni prysur, roedd e ar fferm wedi’i amgylchynu gydag anifeiliaid mewn caeau. Mynychais flociau dysgu yn swyddfeydd Sgil Cymru yn Pinewood Studio Cymru gyda phrentisiaid eraill ac am weddill yr amser roeddwn i yn Whitehart yn hyfforddi ac yn gweithio mewn graffeg, camerâu, meddalwedd golygu, cyfuno cydrannau rhyngweithiol a phrofi llwyfannau e-ddysgu.
Cafodd Sue Jeffries, Rheolwr Gyfarwyddwr Sgil Cymru, llwyddiant yn y gwobrau blwyddyn ddiwethaf trwy ennill yn y categori Asesydd Dysgu yn y Gwaith y Flwyddyn.
Dwedodd Sue:
Dwi mor falch, yn dilyn fy llwydiiant i y llynedd, fod Thomas wedi dod i’r rownd derfynnol eleni. Roedd Thomas yn brentis arbennig, ac mae’n haeddu pob llwyddiant yn y dyfodol.