Enwebiad i Sue Jeffries yn Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru

media apprenticeships in wales
Gweithdy Recriwtio Sgil Cymru

Cyhoeddwyd Rheolwr Gyfarwyddwr Sgil Cymru, Sue Jeffries, fel un o dri i gyrraedd rownd derfynol yng nghategori’r Asesydd Dysgu yn y Gwaith y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru 2017. Dyma’r ail dro i Sue gael ei henwebu, roedd hi yn y rownd derfynol yn y categori Ymarferydd Y Flwyddyn yng ngwobrau 2015. Eleni, mae Sue yn  cael ei chydnabod am ei chyfraniad eithriadol i brofiad dysgu prentisiaid yn gweithio yn y diwydiannau creadigol, yn ei rôl fel prif asesydd Sgil Cymru.

Mae profiad anferth Sue o weithio yn y cyfryngau yn golygu ei bod hi wir yn deall gofynion y diwydiant, ond hefyd sut y mae newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant yn gorfod gweithio eu ffordd i fyny o’r gwaelod. Ar ôl graddio o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ymunodd Sue â ITV fel PA dan hyfforddiant yn gweithio ei ffordd i fyny drwy’r graddau cynhyrchu o Gynorthwy-ydd Cynhyrchu I Gyfarwyddwr a Chynhyrchydd. Aeth Sue ar ei liwt ei hun yn 1989, a bu’n gweithio fel cynhyrchydd ffilm a theledu a chyfarwyddwr am fwy nag un ar bymtheg blynedd, yn bennaf ym maes drama, plant ac adloniant.

Mae Sue nawr yn goruchwylio tair rhaglen brentisiaeth wahanol ar gyfer Sgil Cymru mewn maesydd gwahanol o’r diwydiannau creadigol, ac mae’n gweithio’n agos gyda nifer o gyflogwyr, gan gynnwys BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales, S4C a Real SFX i sicrhau bod prentisiaid yn cael y mwyaf  o’u hamser ar y cynllun. Fel asesydd arweiniol, mae Sue hefyd yn mentora tri asesydd llawrydd tra’u bod yn canolbwyntio ar ddatblygu gyrfaoedd y prentisiaid.

Mae Sue wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y gwobrau ochr yn ochr ag Emma Huggins o ACT Training a Kelly Nancarrow o Torfaen Training. Cyhoeddir yr enillydd yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2017, a noddir gan Pearson PLC ac fe’i cefnogir gan  Media Wales, yng Ngwesty’r Celtic Manor, Casnewydd ddydd Gwener 20 Hydref.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.