Gweithdai CV i’r Cyfryngau Creadigol

Sgil Cymru yn cynnal gweithdai CV i’r cyfryngau creadigol yn Pinewood Studio Cymru

Ochr yn ochr a Media CV Wizard, rhedodd Sgil Cymru ddau weithdy CV yn eu canolfan hyfforddi yn Pinewood Studio Cymru yn ystod mis Ebrill. Roedd y gweithdy cyntaf i weithwyr proffesiynol y diwydiant oedd am drefnu eu credydau a phrofiad mewn i CV newydd, tra bod yr ail weithdy i fyfyrwyr a newydd-ddyfodiaid i baratoi CV ar gyfer eu dechreuad yn y byd cyfryngau.

Yn ystod y ddwy sesiwn, cymerodd y cyfranogwyr ran mewn gweithdy lle wnaethon nhw dadansoddi CVs cyfryngau arbenigol yn fanwl, cyn derbyn arweiniad un-i-un ar sut i deilwra eu CVs eu hunain. Ar diwedd y gweithdy roedd gan bob cyfranogwr CV newydd sbon, gan ddysgu technegau i ddiweddaru eu CV wrth i’w gyrfaoedd gynnyddu.

Ar ôl cwblhau’r gweithdy, dyma beth oedd gan rai o’r cyfranogwyr i’w ddweud:

“Sesiwn cryno gret.”

“Ffantastig – wedi mwynhau ac wedi ffeindio’r cwrs yn ddefnyddiol.”

“Cyfle gwych i greu CV a anelir at y diwydiant cyfryngau.”

“Roedd y cwrs yn well nag o’n i’n ddisgwyl ac roeddwn yn gallu creu CV clir o’r cwrs.”

Bydd Sgil Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Media CV Wizard eto i gynnig gweithdai yn y dyfodol. Os ydych yn chwilio i ddiweddaru eich CV – os oes gennych eisoes CV, neu dim ond dudalen wag heb wybod lle I droi – yna anfonwch e-bost i help@sgilcymru.com i gofrestru eich diddordeb mewn mynychu ein gweithdy.