Ydych chi am weithio ym maes Diogelwch o fewn y diwydiant ffilm a theledu?

Wyt ti am weithio yn y diwydiant teledu a ffilm, neu am wybod mwy am y sector?

Wyt ti erioed wedi meddwl am fod yn berson Diogelwch yn gweithio ar raglenni drama neu adloniant ffeithiol o’r radd flaenaf?

Mae gan Gymru ddiwydiant teledu a ffilm sydd yn ffynnu, ac mae na brinder mawr o bobl gyda’r sgiliau perthnasol ar gyfer llawer o’r swyddi pwysicaf. Ella mai rwan ydy’r amser iti ymchwilio i weld os oes gen ti’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer symud i mewn i’r byd bywiog o ddiogelwch.

Rydym ni’n gweithio efo Troed yn y Drws, Quantum Manpower a Restart yng Nghasnewydd, ar brosiect wedi’i ariannu gan UK Community Renewal Fund mewn gysylltiad gyda Cyngor Casnewydd a Llywodraeth y DU, i gynnig llwybr mewn i’r diwydiant cyffrous yma i drigolion Casnewydd.

Diddordeb?  Gyrra CV at help@sgilcymru.com