Prentis Gwisgoedd – BBC Cymru Wales

Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi heibio.

Cwmni:                       BBC Cymru Wales
Rôl Prentisiaeth:     Prentis Gwisgoedd
Lleoliad:                     Porth y Rhath, Bae Caerdydd

Am y Sefydliad

BBC_Cymru_Wales_logo.svgDarlledwr y genedl yw BBC Cymru Wales, yn cynnig ystod eang o ddarpariaeth yn y Gymraeg a Saesneg ar gyfer cynulleidfaoedd ledled Cymru ar y teledu, y radio a thrwy ein gwefannau.

Porth y Rhath yw canolfan ragoriaeth gwbl fodern y BBC ar gyfer Drama, lleoliad sy’n fwrlwm o ynni a doniau newydd. Pan symudodd y cynyrchiadau cyntaf i Borth y Rhath ym Medi 2011, fe wnaethant wireddu un o addewidion y BBC i greu canolfan ragoriaeth ar gyfer Drama yng Nghaerdydd.

Mae’r cyfleuster 170,000 troedfedd sgwâr hwn a leolir ym Mhorth Teigr, Bae Caerdydd, sy’n cynnwys naw stiwdio ac sydd yr un hyd â thri chae pêl-droed, yn awr yn gartref parhaol, at y pwrpas i bedair o brif ddramâu’r BBC – Casualty, Pobol y Cwm, Doctor Who – yn ogystal ag i gynyrchiadau newydd i’r dyfodol.

Disgrifiad Swydd

Beth mae’r Prentis Adran Wisgoedd yn ei wneud?

Fel prentis byddwch yn meithrin dealltwriaeth o brosesau cynhyrchu sy’n berthnasol i wisgoedd, yn ennill profiad o ddadansoddi sgriptiau a phrosesau parhad, amserlennu cynyrchiadau a dealltwriaeth o arferion ar y set wrth gynorthwyo a chefnogi’r tîm gwisgoedd profiadol.

Bydd angen i chi fod wedi cyflawni safon dda o wneud gwisgoedd, eu haddasu, a’u cynnal a’u cadw, a chael yr hyder i weithio’n gyflym ac yn effeithlon o dan bwysau.

Bydd hefyd angen dangos agwedd gadarnhaol ac ymroddgar ac awydd cryf i ddysgu gan fod yr oriau’n faith a gall y swydd gynnwys cyfnodau hir o weithio oddi cartref.

Esiamplau o swyddi gall Prentis Gwisgoedd eu gwneud yn y dyfodol –

  • Cynorthwy-ydd Gwisgoedd
  • Cynorthwy-ydd Wardrob
  • Cynllunydd Gwisgoedd
  • Arolygydd Gwisgoedd

Pa fath o berson sydd angen i chi fod?

  • Creadigol
  • Gweledol ymwybodol
  • Y gallu i wnïo/gywirio/addasu
  • Y gallu I smwddio
  • Trefnus
  • Gwybodaeth am ffasiwn a gwisgoedd
  • Hydwyth

Sgiliau Anghenrheidiol:

  • rhaid bod yn hyblyg, a bod â’r gallu i ymdrîn â newidiadau funud olaf yn rhagweithiol
  • rhaid gallu ymdopi’n dda gyda therfynnau amser allanol, a bod â’r gallu i weithio o’ch pen a’ch pastwn eich hun
  • rhaid bod â’r gallu i wnïo â llaw, er mwyn gwneud unrhyw addasiadau ar frys
  • rhaid gwybod sut i wisgo Actorion, a sut i ddyfalu maint dillad drwy edrychiad yn unig
  • mae sgiliau cyfrifiadurol da (Mac a PC) yn hanfodol
  • Llygad am ddylunio
  • Cyfathrebu; medru cyfleu syniadau i eraill

Cymwyseddau Cyffredinol

  • Gwaith tîm – Gweithio’n effeithiol iawn fel rhan o dîm; yn gweithio er budd y tîm cyfan
  • Rheoli cydberthnasau – Gallu creu a chynnal cydberthnasau gwaith effeithiol ag amrywiaeth o bobl.
  • Cyfathrebu – Y gallu i gyfleu neges yn glir drwy fabwysiadu amrywiaeth o arddulliau, dulliau a thechnegau sy’n briodol i’r gynulleidfa ac i natur y wybodaeth
  • Dylanwadu a darbwyllo – Y gallu i gyflwyno dadleuon cadarn ac wedi’u rhesymu’n dda i ddarbwyllo pobl eraill. Gallu defnyddio amrywiaeth o strategaethau i ddarbwyllo pobl mewn ffordd sy’n arwain at gytundeb neu newid ymddygiad
  • Cynllunio a threfnu – Yn gallu bod yn flaengar er mwyn sefydlu dull gweithredu effeithiol a phriodol i chi’ch hun ac eraill. Yn blaenoriaethu ac yn cynllunio gweithgareddau gan ystyried yr holl faterion a ffactorau perthnasol megis terfynau amser, gofynion staffio ac adnoddau.
  • Meddwl yn Greadigol – Yn gallu troi syniadau/ysgogiadau creadigol yn realiti ymarferol. Yn gallu edrych ar sefyllfaoedd a phroblemau presennol mewn ffyrdd newydd a chreu datrysiadau creadigol.
  • Dyfalbarhad – Yn gallu rheoli effeithiolrwydd personol drwy reoli emosiynau yn wyneb pwysau, rhwystrau neu wrth ddelio â sefyllfaoedd cythruddol. Yn gallu dangos ymagwedd at waith a nodweddir gan ymrwymiad, cymhelliant a brwdfrydedd.
  • Ysgogiad – Yn dangos ymrwymiad, cymhelliant ac egni.
  • Hunanddatblygiad – Yn dangos cryfderau personol ac anghenion datblygu, ac yn ceisio gwella perfformiad yn barhaus drwy feithrin sgiliau a dysgu ymddygiad newydd.
  • Hyblygrwydd – Yn addasu a gweithio’n effeithiol gydag unigolion, grwpiau neu mewn sefyllfaoedd amrywiol. Yn gallu deall a gwerthfawrogi safbwyntiau gwahanol a gwrthwynebol ar fater, addasu dull o weithredu wrth i ofynion sefyllfa newid, a derbyn newidiadau yn eich sefydliad eich hun neu ofynion eich swydd yn hawdd.

Fframwaith

Tra’n gweithio i BBC byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 12 mis Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol.