Hoffai tîm Sgil Cymru longyfarch pob enillydd ac enwebai yng ngwobrau Diwrnod VQ 2018.
Mae Gwobrau VQ yn gwobrwyo unigolion a sefydliadau am eu hymrwymiad, eu gwaith caled a’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni. Mae’r wobr newydd i Hyfforddwr VQ y Flwyddyn yn cydnabod hyfforddwyr unigol sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig wrth helpu dysgwyr yn y gweithle i ragori, a hynny gan wella eu sgiliau a’u gwybodaeth eu hunain yn gyson ar yr un pryd.
Cynhelir y noson wobrwyo yng Ngwesty The Exchange ym Mae Caerdydd ar nos Iau y 3ydd o Fai. Roedd amryw o gategori ar y noson yn cynnwys Dysgu Canolradd y Flwyddyn, Dysgwr Uwch y Flwyddyn, Hyfforddwr y Flwyddyn a Chyflogwr y Flwyddyn.