Cynhelir y Gwobrau Prentisiaethau QSA 2016 yng nghampws canol y ddinas Coleg Caerdydd a’r Fro ar y 11eg o Fawrth.
Llongyfarchiadau mawr i Real SFX a ddaeth i’r brîg yn y categori Cyflogwr Bach y Flwyddyn, ac i Lucy Robertson, cyn-brentis adran gelf yn BBC Cymru Wales a enillodd yn y categori Prentis Diwydiannau Creadigol y Flwyddyn. Enwebwyd Real SFX a Lucy gan Sgil Cymru, fel y ddarparwr hyfforddiant.
Dwedodd Carmela Carrubba, Cyfarwyddwr Creadigol Real SFX “A special thank you to Sue Jeffries, Nadine, Matt and Catrin for starting up Sgil Cymru after Cyfle went last year. Without individuals like Sue and Nadine with passion and drive in training, we would not be able to continue bringing new talented people into the creative industries via apprenticeships.”
Consortiwm yw’r Gynghrair Ansawdd Sgiliau sy’n cynnwys darparwyr dysgu seiliedig ar waith, ac sy’n gyfuniad o 22 o bartneriaid ac is-gontractwyr. Mae’r gwobrau’n dathlu rhagoriaeth a chyflawniad a dewiswyd yr enillwyr gan banel a oedd yn cynnwys cadeirydd y Gynghrair a chynrychiolwyr o Gonffederasiwn Diwydiant Prydain ac Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru.
Leave a Reply