Neithiwr, buodd Sue, Nadine a Lisa lan ym Mirmingham ar gyfer Gwobrau Prentisiaid AAC. Yn anffodus wnaethon ni ddim ennill yn ein categori ni ond rydym yn falch iawn ein bod ni wedi cyrraedd y 2 olaf (ar y cyd gyda Choleg Caerdydd a’r Fro) a llongyfarchiadau mawr i JGA Group am ennill. Roeddem yn falch iawn i fod yna i gynrychioli Cymru yn y gwobrau ynghyd a Choleg Pen-y-bont a oedd yna am wobr yn y categori Adeiladwaith! Yn anffodus enillon nhw ddim y wobr chwaith – ond mewn gwobrau Prydeinig mor fawr, roedd enwebiad rhestr fer yn llwyddiant ffantastig.
Roedd hi’n noson wych – dyma rhai o’r lluniau!