Cwblhaodd Nia Yorke, 21 o Gaerdydd, Prentisiaeth Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol gyda Sgil Cymru yn 2016. Wrth gwblhau ei phrentisiaeth gweithiodd Nia fel Prentis Arbenigwr Cynhyrchu i ITV Cymru Wales yng Nghaerdydd.
Cyn ymgeisio am y brentisiaeth, astudiodd Nia Gyfryngau, Dylunio Graffeg a Chymdeithaseg yn y chweched dosbarth. Yn fuan iawn roedd Nia yn gwybod ei bod hi ddim eisiau mynd i’r brifysgol, roedd hi am ddechrau gyrfa o fewn y diwydiannau creadigol cyn gynted â phosib.
Fel prentis, roedd Nia yn hyfforddi o fewn y Tîm Technegol roedd yn gyfrifol am allbwn newyddion rhanbarthol ar draws Cymru. Roedd Nia yn gweithio fel Cynorthwyydd Cynhyrchu ac ar Autocue rhan fwyaf o’r amser.
Dwedodd Nia:
Roeddwn i’n gweithio bob dydd ar fwletin amser cinio, bwletin hwyr a’r rhaglen flaenllaw, Wales at Six. Roeddwn i hefyd yn ddigon ffodus i weithio ar raglen roedd yn cofio marcio 50 blwyddyn ers trychineb Aberfan.
Roedd Nia yn ei harddegau wrth gwblhau ei phrentisiaeth a gweithio i ITV Cymru Wales. Oherwydd ei oedran roedd Nia yn poeni nad oedd hi’n mynd i ffitio mewn gyda gweddill y tîm, oherwydd roedd ei chydweithwyr i gyd wedi bod yn gwneud eu swyddi am fwy na 10, 20 a 30 blwyddyn. Yn fuan ar ôl dechrau roedd Nia wedi setlo mewn i’w thîm newydd.
Dwedodd Nia:
Roedd y siawns i fod yn rhan o dîm profiadol wedi gwneud i fi aeddfedu.
Yn dilyn ei phrentisiaeth dechreuodd Nia weithio’n llawrydd i ITV Cymru Wales ac ers hynny mae hi wedi parhau i wneud.
Ar y cyd gyda gweithio i ITV Cymru Wales mae Nia wedi gweithio ar brosiectau eraill gan gynnwys Cardiff Singer of the World 2017, Eisteddfod yr Urdd a The Big Painting Challenge.
Yn ogystal â chwblhau ei phrentisiaeth enwebwyd Nia, gan Sgil Cymru, am Wobrau Cynghrair Ansawdd Sgiliau (CAS) 2017 sydd yn dathlu llwyddiant prentisiaid rhagorol y CAS dros y flwyddyn ddiwethaf.
Dwedodd Nia:
Roeddwn i mor hapus i ennill y wobr am Brentis Diwydiannau Creadigol y Flwyddyn yng ngwobrau CAS 2017. Mae hyn yn edrych yn grêt ar fy CV ac mae fe wedi fy helpu i gael mwy o waith.
Heb y brentisiaeth ni fydd Nia wedi cael y cyfleoedd yma mor fuan yn ei fywyd proffesiynol. Ni fydd unrhyw gwrs prifysgol yn medru dyblygu’r profiadau mae Nia wedi cael o ganlyniad i’r brentisiaeth.
Dwedodd Nia:
Mae fy hyder o fewn y diwydiant cyfryngau wedi tyfu ac oherwydd hyn dwi’n hapus yn fy swydd. Mae fy sgiliau yn parhau i ehangu pob dydd. Ni fyddwn ni fan hyn heb y brentisiaeth.
Os, fel Nia, rydych chi’n edrych am eich cam nesaf, cliciwch yma i arwyddo lan i dderbyn ein cylchlythyr prentisiaethau sy’n cwmpasu ein holl swyddi gwag ar gyfer newydd ddyfodiaid ar gynlluniau prentisiaeth.