Ffarwel dosbarth 18-19!

Yn ystod yr haf, roedd y prentisiaid cyfryngau 2018-19 nol yn ‘stafelloedd hyfforddi Sgil Cymru yn Pinewood Studio Cymru am y tro olaf i gwblhau eu gwaith ar y diploma lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol. 

Bellach mae’r 19 prentis yn ôl gyda’u cyflogwyr  – gan gynnwys Real SFX, BBC Cymru Wales a ITV Cymru Wales – ac mae’r rhaglen bellach wedi gorffen. Wedi dysgu cymaint mewn cyn lleied  o amser, mae ambell un o’r prentisiaid wedi rhannu’u profiadau personol o’r rhaglen: 

Gofynwyd  i brentis Boom Cymru, Gwenno Ellis-Owen, tra’n cael ei chyfweld gan Cardiff TV; ‘fel siaradwr Cymraeg, beth sydd gan Sgil Cymru i gynnig?’

“Maent yn caniatáu i mi ddysgu yn y ddwy iaith. Mae’r staff i gyd yn ddwyieithog sydd yn ddefnyddiol iawn gan fy mod i’n fwy cyfforddus yn siarad Cymraeg”

Ar ôl i’r prentisiaid gwblhau eu gwaith diploma, gofynnwyd iddyn nhw sut oeddent wedi mwynhau eu profiad, dyma rhai o’r ymatebion dderbyniwyd:

Dywedodd Harold Spencer, prentis cynorthwyydd Grip gyda BBC Cymru Wales:

“Profiad ffantastig yn gyffredinol. Cymaint o bobl wych a phrosiectau i weithio arnynt. Mae pawb wedi bod yn arbennig, ac rydw i wedi dysgu llawer!”

Prentis BBC Radio Wales, Jesse Edwards:

“Byddaf yn bendant yn ei argymell. Doeddwn i rioed yn meddwl y byddwn yn cael y fath gyfle.”

Dywedodd Prentis ITV Cymru Wales, Zahra Errami:

“Rydych yn dysgu o’r gorau, ac yn y lleoliad gorau sydd mewn stiwdio weithiol hefyd”

Dywedodd Eugenia Taylor, hefyd yn Brentis ITV Cymru Wales:

“Dwi’n credu bod y system cymorth rhwng Sgil Cymru a’r cyflogwr yn gryf iawn ac rydw i wastad wedi teimlo fy mod  yn medru siarad ag unrhyw un ohonyn nhw.  Teimlaf hefyd fod Sgil Cymru a fy nghyflogwyr wir yn meddwl am fy ngofynion yn ystod y profiad hwn, a gwn eu bod nhw am i mi fynd ymhell.”

Ben Cooper, Prentis Ôl-Gynhyrchu gyda The Look

‘Mae’r system gefnogi yn ffantastig.  Er fod ‘na bob math o anghenion gan y dysgwyr, mae’r tim yma (Sgil Cymru) yn medru helpu pawb.”

Ac unwaith eto, Prentis Boom Cymru, Gwenno Ellis-Owen:

“Cer amdani, dyma’r peth gorau rydw i wedi’i wneud hyd yn hyn”

Efallai fod y  brentisiaeth gyda Sgil Cymru wedi dod i ben, ond, mae ein drysau wastad ar agor a bydd ein cymorth yn parhau i fod ar gael i unrhyw un sydd ei angen. Dymunwn y gorau o fewn y diwydiant  i bob un o’r prentisiaid, ac rydym yn edrych ymlaen at weld beth fydd yn digwydd nesa’!

Cliciwch yma i weld ein fideo hwyl fawr!