Al yn Camu i Lwybr Newydd

Mae Sgil Cymru yn croesawu Al Edwards, Golygydd profiadol, fel yr ail hyfforddai ar gynllun Camu Fyny 2017.

Mae Camu Fyny yn gyfle prin i weithwyr proffesiynol sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant i symud ymlaen yn eu gyrfa, a hefyd ar gyfer y rhai sydd yn arbenigwyr cymwysedig sydd eisiau gweithio ym myd teledu. Bydd y cynllun hyfforddiant yn cael ei deilwra i’r unigolyn yn ôl eu hanghenion, a bydd pob cyfranogwr yn ymgymryd â lleoliad neu gwrs yn para hyd at 10 wythnos, yn derbyn lwfans hyfforddi ar gyfer y cyfnod cyfan.

Mae gan Al dros ugain mlynedd o brofiad fel Golygydd. Dechreuodd e gyda chwmni teledu annibynnol bach ar y pryd o’r enw Boomerang, cyn symud ymlaen i dŷ cyfleuster ‘Mwnci’ yng Nghaerdydd. Arosodd Al gyda ‘Mwnci’ drwy eu cyfnod pontio ac ail brandio fel ‘Gorilla’.

O ddydd i ddydd mae Al yn arbenigo mewn golygu off lein, sy’n golygu ei fod e’n derbyn y rushes rhaglen neu ffilm i gyd ac yn torri nhw mewn trefn ddilyniannol ar gais y Cyfarwyddwyr.

Yn ystod yr haf eleni, penderfynodd e i fynd yn llawrydd.

Dwedodd Al:

Fel mae technoleg yn gwella, ac wrth i gyllidebau fynd yn llai, mae’n dod yn amlwg i fi bod yr angen yno i fod  gallu aml dasgio a bod yn gallu cynnig amrywiaeth o sgiliau, ac eithrio golygu. Mae cleientiaid yn awr yn disgwyl lefel wahanol o olygydd. Un sydd yn ogystal â thorri rhaglen, yn gallu graddio, torri ar-lein a hyd yn oed gwneud FX arbennig ar wahanol lwyfannau a meddalwedd. Dyma’r rheswm y gwnes i gais am raglen ‘Camu  fyny’ er mwyn imi allu gwella fy hun, ac ail-addysgu drwy gyrsiau a fydd yn helpu fi i uwchraddio fy ngwasanaeth.

P’un a ydych yn Ysgrifennydd Cynhyrchu eisiau camu fyny at Gydlynydd Cynhyrchu, neu AD sydd eisiau symud i fyny gradd, neu drydanwr sydd eisiau symud i mewn i adran gynhyrchu teledu, rydym am glywed gennych. Dwedwch wrthym beth sydd angen arnoch a pham.

Anfonwch hyd at 200 o eiriau am eich hun a chopi o’ch CV at lisa@sgilcymru.com.