Am weithio fel Arolygydd Sgript yn y diwydiant ffilm?

Oes gennych chi ddiddordeb mewn ein cynllun hyfforddi Arolygydd Sgript? Dyma beth sydd gan y cyn-fynychwyr I’w ddweud …

Script Super a actorionFe laniodd Emilija Paula ei swydd arolygydd sgript ffilm nodwedd cyntaf yn fuan ar ôl iddi orffen y cwrs arolygydd sgript ac ers hynny mae hi wedi gweithio ar ffilm fer gyda  Tamzin Merchant o’r enw ‘Juliet Remembered’ gyda chast yn cynnwys Maggie Steed, Mathew Lewis (Harry Potter) a Rakhee Thakrar (Eastenders). Cliciwch yma i weld adroddiad BBC News o’r prosiect.

Yn fuan wedyn, dechreuodd Emilija gweithio efo chynhyrchiadau Lithwaneg/Bwlgareg, yn saethu ffilmiau nodwedd yn y ddwy wlad.  Gorffennodd hi ar ddiwedd mis Ebrill. Mae Emilija hefyd wedi dechrau gweithio ar hysbysebion – maes newydd o waith Iddi.

“Allai’m bwysleisio digon pa mor hapus ydwi’I  fy mod yn wedi bod ar  y cwrs arolygydd sgript yng Nghaerdydd, gan ei fod yn rhoi cymaint o hyder yn fy sgiliau yn ogystal â chanllawiau ar sut i wneud fy ngwaith yn llawer gwell, a sut y galla’I wella fy sgiliau. “

Mae Emilija yn ddiweddar wedi  gweithio yn yr Wcrain ar gyfer ffilm fer arall. Gwaith gwych!

Ar ol iddi gwblhau’r cwrs arolygydd sgript ym mis Hydref 2014, fe wnaeth Caryl ddechrau cyflogaeth llawn amser ar y gyfres ddrama  Gymraeg, Pobol y Cwm, a gynhyrchir gan BBC Cymru Wales.

llun“Yr wyf yn awr yn gweithio ochr yn ochr â thri arolygydd sgript arall a llu o staff cynhyrchu eraill i ffilmio pum pennod dros gyfnod o saith diwrnod, sydd fel arfer yn cynnwys tua pythefnos o amser paratoi ymlaen llaw. Mae’r rôl yn un prysur, gyda digon o gyfrifoldeb sydd yn ymwneud  â amseriadau a dilyniant. Rwyf wrth fy modd efo fy rol, ac heb yr hyfforddiant, ni fyddwn wedi medru cymryd y cam hwn.”

A oes gennych unrhyw gwestiynau? E-bost help@sgilcymru.com neu ffoniwch ni ar 07843 779 870!

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ar ein cynllun hyfforddi Arolygydd Sgript.

Cliciwch yma i weld ein cyrsiau hyfforddiant ffilm eraill.

Be the first to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published.