Cwrs Camu Fyny, Blas ar bod yn Gynorthwyydd Lleoliadau
Os ydych chi’n gweithio yn y cyfryngau creadigol ac eisiau symud i mewn i leoliadau, efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y cwrs hwn mae Sgil Cymru yn rhedeg o dan faner Camu Fyny . Cefnogir y rhaglen hon gan Gronfa High End TV ScreenSkills a LLywodraeth Cymru
Pryd mae’r cwrs? Mae’r cwrs yn rhedeg am 5 diwrnod. Mi fydd fwy o wybodaeth ynglyn a’r dyddiad yn dod yn fuan!
Beth yw strwythur y cwrs?
Bydd y cwrsyma yn rhoicipolwgichi o sut I weithio yn effeithiol mewn Adran Leoliadau trwyddysgu sut iddefnyddiogwaithpapur yr adrangynhyrchu, a thrwywybod am hierarchiaeth yr Adran Lleoliadau. Cewchymarferionfydd yn eichtynnuallano’rstafellhyfforddi yn ymarferol.
Pwy yw tiwtor y cwrs? Lowri Thomas. Hyfforddodd Lowri fel Rheolwr Llawr Cynorthwyol ac yna fel Rheolwr Cynhyrchu yn BBC Cymru Wales yn ystod y 80au a’r 90au cynmyndymlaenifod yn Rheolwr Lleoliad ar ei liwt ei hun, gan weithio ar gynyrchiadau drama a ffilm BBC ac S4C. Mae credydau Lowri yn cynnwys Dr Who, Rocket’s Island, Hollyoaks a Pobol y Cwm, yn ogystal â nifer o hysbysebion, ffilmiau nodwedd ar gyllideb isel, cynyrchiadau byw a recordiau di-ri eraill.
Roedd rôl Lowri fel Rheolwr Prosiect ar gyfer prosiect Roath Lock y BBC yn gweithio yn agos â chynyrchiadau megis Upstairs Downstairs, Dr Who and Casualty. Yndiweddar, mae Lowri wedi gweithio ar ffilmiau nodwedd Prydeinig ac Almaeneg yn Eryri a Lerpwl yn ogystal ag ar gynyrchiadau llai i gwmnïau Americanaidd a Siapaneaidd. Ar hyn o bryd, mae Lowri yn gweithio fel Rheolwr Lleoliadau ar Casualty yng Nghaerdydd.
Pwy yw’rsiaradwyrgwadd? Yn ystod yr wythnos, bydd y cynnwys yn cael ei gyflwyno ar y cyd â siaradwyrgwaddprofiadoliawnfydd yn barodirannuo’uprofiadhelaeth.
Sut ydw i’n ymgeisio?
Anfonwch gopi o’ch CV diweddaraf a datganiadcenhadaethfer (dim mwyna 250 o eiriau) yn amlinellu pam rydych chi am gymrydrhan yn y cwrsi help@sgilcymru.com.
Faint mae’n ei gostio?
Mae’rcostau ar gyfer y cwrshwnwedicaelcymhorthdalhelaeth gan ScreenSkills, Llywodraeth Cymru a Sgil Cymru sy’ngolygu bod rhaid i bob cyfranogwrdalu £150 yn unig, yn hytrachna £250.
Mae’r rhaglen yma wedi’i gefnogi gan ScreenSkills a Llywodraeth Cymru.
Rydym yn defnyddio cwcis i ganiatáu i’n safle weithio’n briodol, personoli cynnwys a hysbysebion, darparu nodweddion ar gyfer cyfryngau cymdeithasol a dadansoddi ein traffig. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis. // We use cookies to personalise content and ads, to provide social media features and to analyse our traffic. You can manage cookies via your browser settings. By continuing to browse the site you are agreeing to our use of cookies.