Croesawu Prentisiaid 19-20

Croesawodd Sgil Cymru 20 prentis creadigol newydd mis yma Bydd pob prentis yn cwblhau eu cymhwyster gyda Sgil Cymru, tra’n gweithio am flwyddyn i gwmni cyfryngau yn ne Cymru.

Am y tro cyntaf mae S4CEx Cathedra Solutions Ltd. AGFX.TV wedi recriwtio prentisiaid ar y rhaglen. Yn ogystal â’r  cyflogwyr newydd mae BBC Cymru WalesITV Cymru WalesReal SFXCardiff TVThe Look a Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi dychwelyd i’r cynllun i gyflogi rhagor o brentisiaid.

Mae’r prentisiaid y flwyddyn yma yn gweithio  mewn amrywiaeth o swyddi ar draws gwahanol adrannau’r diwydiant cyfryngau, gan gynnwys:

  • Adran Gynhyrchu
  • Effeithiau Arbennig
  • Gwisgoedd
  • Marchnata
  • Ôl-gynhyrchu

Cyn dechrau yn y gweithle mynychodd pob prentis tair wythnos o gwrs rhagarweiniol gyda Sgil Cymru lle ddechreuon nhw ar eu gwaith diploma.

Dwedodd Rebecca, prentis Digidol a Marchnata BBC Cymru Wales:

Rwy’n teimlo bod fy nhair wythnos gyntaf yn Sgil Cymru wedi mynd yn dda iawn. Rwyf wedi mwynhau cwrdd â’r prentisiaid eraill ac rwy’n teimlo fy mod bellach wedi ymgartrefu yn strwythur gweithio’r brentisiaeth.

Ymwelodd y prentisiaid â Stiwdio Blaidd Cymru lle mae llawer o gynhyrchiadau yn cael eu ffilmio ar hyn o bryd ac fe gawson nhw’r cyfle i siarad â rhai o aelodau o’r adrannau sy’n gweithio ar y cyfresi rheiny. Buont hefyd yn ymweld â chyfleusterau Coleg Caerdydd a’r Fro gan eu bod yn gallu eu defnyddio tra ar eu prentisiaeth.

Dwedodd Lloyd, prentis The Look:

Roedd y daith i stiwdios Wolf yn brofiad gwych gan nad ydw i erioed wedi bod i set ffilm o’r blaen – roedd yn gyfle cŵl iawn. Roedd ymweld â’r coleg yn dda gan imi ddarganfod am yr holl ostyngiadau a chyfleusterau sydd ar gael imi yn ystod fy mlwyddyn fel prentis.

Gyda’r cwrs rhagarweiniol yn dod i ben mae’r prentisiaid yn edrych ymlaen at ddechrau yn y gweithle gyda’u cyflogwyr newydd. Wrth weithio fel prentis bydd pawb yn cael eu taflu mewn i’r byd cyfryngau ac yn gweithio ar raglenni ar draws y wlad.

Dwedodd Owen, prentis Ôl-gynhyrchu BBC Cymru Wales:

Rydw i’n edrych ymlaen yn fawriawn. Mae gallu gweithio ar sioe deledu wirioneddoldysgu sut mae’r system ôl-gynhyrchu yn gweithio yn hynod gyffrous.

Croeso cynnes i’n 20 prentis creadigol newydd…