Cyfweld â phrentis – Daniel Snelling

cof

Er mwyn dathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2020 rydym wedi cyfweld â 5 o’n cyn prentisiaid sydd wedi llwyddo yn eu gyrfaoedd yn dilyn eu prentisiaeth. Ein gwestai olaf yn y gyfres yw Daniel Snelling.

Enw:                                         Daniel Snelling
Oedran:                                   21
O:                                              Casnewydd
Cyflogwr Prentis:                  Real SFX
Swydd Teitl Prentis:             Prentis Creadigol a Digidol

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn y brentisiaeth?

Cyn fy mhrentisiaeth, ro’n i’n rheolwr warws ar gyfer cwmni bach oedd yn gosod sgriniau LED ar gyfer cleientiaid fel Carphone Warehouse a Dixon’s Travel. Yn ffodus iawn, o ganlyniad i’r profiad hyn, roeddwn i’n gallu addasu i’r gwaith gyda Real SFX heb ddim problem.

Pam oeddech chi moen wneud prentisiaeth?

Roeddwn wedi bod eisiau gweithio yn y diwydiant teledu a ffilm erioed ond doeddwn i ddim yn gwybod sut i gymryd y cam cyntaf. Roedd Sgil Cymru yn ffordd wych o gael cymhwyster, dysgu wrth i mi ennill cyflog, a chreu cysylltiadau yn y diwydiant, o’r cychwyn cyntaf.

Beth oedd cyfrifoldebau’r swydd brentis?

Fel Prentis Effeithiau Arbennig, roedd fy nyletswyddau yn cynnwys glanhau a chynnal y cit, trefnu stoc a nwyddau traul y gweithdy, llwytho faniau gyda’r cyfarpar perthnasol ar gyfer y gwaith, a chynnal y faniau.

Ar ba raglenni/prosiectau wnaethoch chi weithio?

Tuag at ddiwedd fy mlwyddyn, cefais gyfle i fynd ar setiau rhaglenni megis His Dark Materials, Doctor Who, Dracula ac Intergalactic.

Beth ddigwyddodd wedi i chi gwblhau eich prentisiaeth?

Ers gorffen fy mhrentisiaeth, dwi wedi cael gwaith llawn-amser gyda Real SFX. Dwi wedi derbyn mwy o gyfrifoldebau o fewn fy rôl ac wedi tyfu i fod yn aelod cyson o’r tîm.

Ydych chi wedi newid/tyfu o ganlyniad i’r brentisiaeth?

Gan ddefnyddio’r wybodaeth dwi wedi ei hennill drwy gydol fy mhrentisiaeth, dwi nawr yn fwy hyderus pan yn gweithio yn y gweithdy ac ar set.

Beth yw’r cam nesaf yn eich gyrfa?

Oherwydd fy nghymhwyster, mae gen i bellach lwybr gyrfa ymarferol mewn i’r diwydiant ffilm a theledu.