Dathliad Sgil Cymru 2019

Siôn Corn yn dod a’r tystysgrifau yn fuan i’r pedwerydd  ‘Dathliad’ gan  Sgil Cymru, y darparwr hyfforddiant i’r cyfryngau yng Nghymru.

Mae’r ‘Dathliad’ yn siawns i gydnabod llwyddiant hyfforddiant Sgil Cymru wrth roi siawns i weithwyr proffesiynol y diwydiant i rwydweithio.

Noddwyd y noson gan ‘Down the Caravan’, Tim Diwydiannau CreadigolLlyowdraeth Cymru a Creative Risk Solutions, gyda’r gwesteion yn cynnwys cyn-fynychwyr cyrsiau blaenorol Sgil Cymru, prentisiaid a gweithwyr professiynol y diwydiant sy’n gweithio o fewn Cymru ag ar draws y DU.

Mae Sgil Cymru yn dathlu llwyddiant  23 prentis creadigol yn cwblhau eu fframweithiau gyda’r  mwyafrif ohonynt yn parhau i weithio o fewn y diwydiannau creadigol i gyflogwyr fel BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales, Spindogs, Golley Slater a Real SFX, neu fel gweithwyr llawrydd. 

Un o uchafbwyntiau y noson oedd gwobr a roddwyd gan Creative Risk Solutions sydd yn cydnabod cyflawniadau cyn-brentis. Mae’r rhai sy’n derbyn y wobr yn cael eu hystyried yn ysbrydoliaeth i brentisiaid y dyfodol. Cyflwynwyd y wobr  eleni i Barry Roberts. 

Gweithiodd Barry fel Prentis yn yr Adran Gelf I BBC Cymru Wales. Fel prentis, bu Barry yn gweithio ar sawl cynhyrchiad fel Dr Who, Casualty a Pobol Y Cwm. Mae Barry yn hollol fyddar sy’n olygu fod addasiadau wedi’u gwneud er mwyn galuogi Barry i weithio’n effeithiol  ac yn hyderus yn y stiwdio. Roedd yna lawer o heriau ar hyd y ffordd ond doedd Barry ddim am gael ei guro. Ers gorffen ei brentisiaeth, mae Barry wedi dysgu gyrru ac mae bellach yn gweithio fel Addurnwr Set Iau o fewn Adran Gelf y cynhyrchiad newydd ‘Industry’ i HBO sy’n cael ei saethu gan Bad Wolf. Uchelgais Barry yw dod yn Gyfarwyddwr Celf cynhyrchiad mawr iawn ac nid oes amheuaeth gennym ni y bydd yn cyflawni hyn.

Mae Sgil Cymru wedi sefydlu ei hun fel yr hyfforddwr mwyaf blaenllaw i’r cyfryngau gyda’i gwahanol raglenni. Maent yn amrywio o brentisiaeth i newydd ddyfodiaid i gyrsiau ar gyfer Arolygwyr Sgript, Cynhyrchwyr a Rheolwyr Cynhyrchu o fewn y diwydiant ffilm  a theledu. Rydym yn edrych ymlaen at flywddyn brysur arall yn 2020. 

Dwedodd Sue Jeffries, Rheolwr Gyfarwyddwr Sgil Cymru:

“Eleni mae ganddon ni grwp amrywiol iawn yn dod i mewn I’r diwydiant , ac rydym yn hynod o falch fod pob un ohonynt wedi llwyddo gyda’u fframwaith prentisiaeth lefel 3. Dyma ddyfodol ein diwydiant, ac mae ganddynt flynyddoedd o lwyddiant creadigol o’u blaen dwi’n siwr.  .   Rydym ni yn Sgil Cymru nawr yn symyd ein ffocws at yr 20 prentis newydd fydd yn graddio yn 2021.”

Dywedodd Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Yr Arglwydd Elis-Thomas:

Roeddwn yn falch iawn o gyflwyno y  tystysgrifau i’r prentisiaid a’u llongyfarch ar eu llwyddiant. Mae’r diwydiannau creadigol yn sector cyffrous iawn yng Nghymru – sy’n mynd o nerth i nerth. Rydym am sicrhau bod pobl yn gallu manteisio ar gyfleoedd, gwella llwybrau i yrfaoedd a chefnogi mwy o bobl i gael mynediad at gyflogaeth yn y diwydiannau creadigol  – a bydd cefnogi sylfaen sgiliau cynaliadwy a datblygu talent yn flaenoriaeth allweddol i Gymru Creadigol. ”