Dwedwch ‘helo’ wrth Barry

Dwedwch ‘helo’ wrth Barry, ein cynbrentis 49-mlwyddoed o Bont-y-pŵl. Cwblhaodd Barry ei brentisiaeth gyda BBC Cymru Wales yn gweithio yn yr Adran Gelf yn ystod 2018 – 2019. Yn ein ‘Dathliad’ diweddar, cafodd Barry ei wobreuo fel Prentis Creadigol Arbennig y Flwyddyn a noddir gan Creative Risk Solutions.

Cyn y brentisiaeth, gweithiodd Barry fel darlunydd graffeg llawrydd, a cafodd y cyfle i gymryd rhan mewn prosiect profiad gwaith yn y BBC ym Mhorth y Rhath. Tra roedd Barry yn cwblhau ei brofiad gwaith, awgrymodd cyn-prentis, sydd yn gweithio fel Cyfarwyddwr Celf ar Pobol y Cwm, y dylai Barry geisio amr brentisiaeth. Roedd Barry ar yr adeg hynny  eisiau bod yn Gyfarwyddwr Celf, ac fe welodd mai  prentisiaeth oedd y cyfle perffaith i  ddysgu sgiliau newydd ac i adeiladu ar ei brofiad er mwyn gwireddu’r uchelgais yma. . 

Gweithiodd Barry ar sawl cynhyrchiad gan gynnwys Dr WhoCasualtyPobol y Cwmyn ystod ei amser yn y BBC. Oherwydd fod Barry ynhollol  fyddar, roedd angen addasiadau   er mwyn iddo fedru gweithio’n saff  a hyderus yn y stiwdio. Er enghraifft, yn  un o’r stiwdios lle’r oedd Barry yn gweithio, roedd yna gloch   yn canu er mwyn dangos pryd roedd recordio yn dechrau. Yn amlwg, roedd hyn yn anodd i berson hollol fyddar,  felly roedd rhaid cael addasiadau.. Penderfynwyd ychwanegu golau at y gloch fel bod Barry yn gwybod pryd oeddent yn ffilmio, yn ogystal â sicrhau bod yna system ‘buddy’ gydag aelod arall o staff hefyd yn sicrhau bod Barry yn gwybod bod recordio ar fin digwydd.  Roedd y BBC yn hynod o gefnogol trwy’r broses hon.

Wedi cwblhau ei brentisiaeth, penderfynodd Barry ddysgu  gyrru er mwyn gwella ei siawns o gael swyddi o fewn y diwydiant, gan ei fod dal i fyw ym Mhont-y-pŵl ac angen teithio yn ol ac ymlaen  yn ystod oriau anghymdeithasolr. Ar hyn o bryd, mae Barry yn gweithio fel Addurnwr Celfi Iau o fewn Adran Gelf y cynhyrchiad newydd ‘Industry’ i HBO sy’n cael ei saethu gan  Bad Wolf.

Dwed Barry ei fod wedi tyfu fel person fel canlyniad o’r brentisiaeth a’i fod  wedi dysgu sgiliau newydd er mwyn helpu symud ymlaen gyda’i yrfa, o fewn yr Adran Gelf. Roedd Barry wedi cael gyrfa amrywiol iawn cyn y brentisiaetho’r theatr i’r siopond mae wedi dysgu pethau positif iawn yn ystod y flwyddyn o hyfforddiant. Un peth mawr yn ol Barry, yw dysgu sut i ddelio gyda’r holl wahanol fathau o bobl sydd yn gweithio ar gynhyrchiad.

Mae Barry bellach yn gwerthfawrogi’n fawr, y cyfle o weithio ar gynhyrchiad mor fawr ag ‘Industry’ ir Bad Wolfac HBO, ac y bydd hyn yn fanteisiol iawn iddo wrth symyd ymlaen a’i yrfa. Y cynllun yw y bydd yn medru symyd ymlaen o un radd i’r llall, ond o fewn cyhyrchiadau llai, er mwyn  hogi ei sgiliau o fewn criwiau llai. Yn y pen draw, hoffai Barry fod yn Gyfarwyddwr Celf ar gynhyrchiad mawr tebyg i’r hyn y mae’n gweithio arno ar hyn o bryd,  Mae’n sylweddoli mae gêm hir yw hon, ac mae’n hollol hapus yn symud o un swydd i’r llall, tra’n dysgu ar y ffordd.  

Dywed Barry:

“Dwi’n gwybod fod gen i ffordd bell i fynd eto, ond heboch chi yn Sgil Cymru fyddwn i ddim lle rydw i heddiw. Rydych chi gyd yn wych, rydych yn newid bywydau am y gorau…”