Enwebiad Gwobrau VQ i Sue Jeffries

Llongyfarchiadau i Sue Jeffries, Rheolwr Gyfarwyddwr Sgil Cymru, am gyrraedd y rownd derfynol yng nghategori Hyfforddwr VQ y Flwyddyn yng ngwobrau VQ.

Mae Gwobrau VQ yn gwobrwyo unigolion a sefydliadau am eu hymrwymiad, eu gwaith caled a’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni. Mae’r wobr newydd i Hyfforddwr VQ y Flwyddyn yn cydnabod hyfforddwyr unigol sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig wrth helpu dysgwyr yn y gweithle i ragori, a hynny gan wella eu sgiliau a’u gwybodaeth eu hunain yn gyson ar yr un pryd.

Wrth gyrraedd y rownd derfynol mae Sue yn cael ei chydnabod am ei chyfraniad eithriadol i brofiad dysgu prentisiaid yn gweithio yn y diwydiannau creadigol, yn ei rôl fel prif asesydd Sgil Cymru. Mae Sue yn goruchwylio tair rhaglen brentisiaeth wahanol mae Sgil Cymru yn gynnig, mewn meysydd gwahanol o’r diwydiannau creadigol, ac mae hi’n gweithio’n agos gyda nifer o gyflogwyr, gan gynnwys BBC Cymru Wales, Golley Slater, ITV Cymru Wales ac S4C i sicrhau fod prentisiaid yn cael y mwyaf o’u hamser ar y cynllun. Fel yr asesydd arweiniol, mae Sue hefyd yn mentora pedwar asesydd llawrydd tra’i bod yn canolbwyntio ar ddatblygu gyrfaoedd y prentisiaid.

Mae Sue yn rhannu’r categori gyda dau hyfforddwr arall: Gwenno Jones o Portal Training a Tom Jones o Goleg Caerdydd a’r Fro. Cyhoeddir yr enillydd mewn seremoni yng ngwesty The Exchange ym Mae Caerdydd ar ddydd Iau 3ydd o Fai.