Gwobr Prentisiaeth i Dan

Rydym yn falch o gyhoeddi bod un o’n cyn brentisiaid gyda Real SFX wedi ennill yng Ngwobrau’r QSA 2020.

Enillodd Daniel Snelling, cyn Brentis Effeithiau Arbennig, y wobr am Brentis Diwydiannau Creadigol y flwyddyn.

Gweithiodd Dan fel prentis Effeithiau Arbennig am flwyddyn cyn cwblhau ei brentisiaeth yn Haf 2019. Wrthi Dan weithio fel prentis fe weithiodd ar gynhyrchiadau fel Peaky Blinders, Coronation Street a llawer fwy. Ers gorffen ei brentisiaeth mae Dan wedi parhau i weithio i Real SFX ac mae o’n cario ‘mlaen i weithio ar gynhyrchiadau cyffrous iawn

Cynhelwyd seremoni wobrwyo y QSA yng Nghampws Caerdydd Canolog, Coleg Caerdydd a’r Fro ar nos Fercher y 11eg o Fawrth 2020. Mae gwobrau’r QSA yn dathlu llwyddiant prentisiaid a chyflogwyr arbennig y QSA yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mynychodd tua 200 o westeion, gan gynnwys enillwyr y gwobrau a’u gwesteion, eu partneriaid a darparwyr y QSA, ynghyd â chynrychiolwyr o’r llywodraeth ac o fyd addysg a’r gymuned fusnes yng Nghymru a thu hwnt.

Hoffai tîm Sgil Cymru longyfarch pob enillydd yng Ngwobrau’r QSA 2020. Roedd hi’n bleser dathlu llwyddiant y prentisiaid a chyflogwyr yn ogystal a’r gwahanol sectorau.