Gyrfa Cryf Gwallt a Cholur ar y Gweill i Hanna

Wrth i raglen Camu Fyny Hanna ddod i ben mae ei gyrfa llwyddiannus o fewn Colur a Gwallt ar fin dechrau.

Fel rhan o’i raglen bwrpasol Camu Fyny fe wnaeth Hanna gweithio fel Cynorthwyydd Colur Iau o dan enillydd BAFTA Cymru, Claire Pritchard-Jones ar y ddrama newydd BBC Cymru Wales a S4C, ‘Keeping Faith/ Un Bore Mercher’.

Trwy ei chyfnod ar ‘Keeping Faith/ Un Bore Mercher’ cafodd Hanna y siawns i ehangu ar ei sgiliau colur yn ogystal â dysgu rhai newydd. Cyflawnwyd Hanna amryw o dasgiau ar y rhaglen gan gynnwys planio a pharatoi am ddiwrnodau saethu, torri lawr sgriptiau, gosod wigiau, llenwi mowldiau prosthetig a gofalu am y brif gast ac artistiaid ategol ar set.

Dwedodd Hanna:

Mae nawr gen i ragor o hyder yn fy swydd fel Cynorthwyydd Colur Iau. Cynyddodd fy hyder trwy roi colur ar y brif actores, gosod gwallt a cholur cymeriad yn ogystal â gosod postiche wyneb. Rwyf hefyd wedi dod yn gyfarwydd ym mhob agwedd o’r gwaith gweinyddol (dadansoddiadau ac ati) ac rydw i hefyd gyda’r all i fwrw ymlaen gyda fy rôl ac yn gallu creu gwaith i fy hun heb orfod gofyn cwestiynau neu holi am dasgiau.

Gyda’i hamser ar ‘Keeping Faith/ Un Bore Mercher’ yn dod i ben mae Hanna yn barod i symud ymlaen gyda’r tîm colur a gwallt i’r cynhyrchiad nesaf, sef Doctor Who, fel Hyfforddai Gwallt a Cholur.

Dwedodd Claire:

Wnaeth Hanna cyflawni ei swydd fel hyfforddai i safon uchel a dwi’n ddiolchgar I Gamu Fyny am adael i fi fedru cynyddu rôl Hanna o fod yn hyfforddai i rôl iau ar ‘Keeping Faith/ Un Bore Mercher’. Mae Hanna yn ofnadwy o dalentog ac y bydd hi’n mynd ymhell yn ei yrfa. Bydd Hanna hefyd yn ymuno a fy nhîm Colur a Gwallt ar y gyfres newydd o Doctor Who. Mae cael cysondeb gyda thîm a hyfforddiant yn hanfodol i fi a dwi’n gobeithio byddai’n gallu dod mewn a fwy o bobl dalentog ar ôl i Hanna symud yn ei flaen.