Hyfforddai Olaf Camu Fyny

Mae Sgil Cymru yn recriwtio Ben Davenport fel hyfforddai olaf Camu Fyny 2017. 

Mae Camu Fyny yn gyfle prin i weithwyr proffesiynol sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant i symud ymlaen yn eu gyrfa, a hefyd ar gyfer y rhai sydd yn arbenigwyr cymwysedig sydd eisiau gweithio ym myd teledu. Bydd y cynllun hyfforddiant yn cael ei deilwra i’r unigolyn yn ôl eu hanghenion, a bydd pob cyfranogwr yn ymgymryd â lleoliad neu gwrs yn para hyd at 10 wythnos, yn derbyn lwfans hyfforddi ar gyfer y cyfnod cyfan.

Cwpl o flynyddoedd yn ôl cwblhaodd Ben ei Brentisiaeth Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol gyda Sgil Cymru. Wrth wneud prentisiaeth gweithiodd Ben fel Prentis Adran Gynhyrchu i BBC Cymru Wales ym Mhorth y Rhath. Cafodd Ben y cyfle i weithio ar amrywiaeth o brosiectau gwahanol, wrth weithio i BBC Cymru Wales, wnaeth ei baratoi am fywyd ar ôl y brentisiaeth.

Ers gorffen ei brentisiaeth mae Ben wedi gweithio o fewn yr adran gynhyrchu ar raglenni yn cynnwys ‘Doctor Who’, ‘Casualty’ a ‘Pobol y Cwm’. Yn fwy diweddar mae Ben wedi gweithio ar ffilm nodwedd o’r enw ‘The Dark Outside’ fel Cynorthwyydd Lleoliadau.

Gyda’r ffilm yn gorffen roedd Ben yn edrych am ei her nesaf ac fe benderfynodd ymgeisio am y rhaglen Camu Fyny.

Fel rhan o’i raglen bydd Ben yn camu fyny o fewn yr adran gynhyrchu ar ‘Pobol y Cwm’.

Dwedodd Ben:

Bydd y rhaglen Camu Fyny yn fy ngalluogi i symud ymlaen yn fy ngyrfa trwy roi’r cyfle i fi fod mewn rôl uwch lle gallaf ddysgu sgiliau newydd a chael profiad ymarferol wrth wneud y swydd mewn ffordd broffesiynol.

Dwedodd Llyr Morus, Cynhyrchydd Pobol y Cwm:

Daeth Ben atom fel Prentis yn yr adran gynhyrchu cwpwl o flynyddoedd yn ôl. Roedd yn amlwg isio dysgu a thyfu yn broffesiynol ac am wneud yn fawr o’i amser yma ym Mhorth y Rhath. Bellach rydym yn ei groesawu yn ôl wedi iddo brofi ei hun mewn amryw o swyddi yn yr adran gynhyrchu i gwmnïau annibynnol yn ogystal â’r BBC.  Mae medru bod yn gymorth i bobl ifanc addawol fel Ben yn fraint, ac mae gallu cydweithio gyda Sgil Cymru i’r perwyl hwn yn bleser. Y gobaith yw y gallwn adeiladu ar y profiad yma i gynorthwyo mwy o bobl ifanc i symud ymlaen yn eu gyrfa.

Dwedodd Sue Jeffries, Rheolwr Gyfarwyddwr Sgil Cymru:

Mae hi’n bleser ac yn fraint inni yn Sgil Cymru allu cefnogi person ifanc fel Ben yn ei yrfa. Ers iddo lwyddo yn ei Brentisiaeth mae Ben wedi tyfu yn broffesiynol ac rydym bellach yn gallu rhoi help llaw iddo ddod yn ôl i Gaerdydd i ddringo grisiau’r adran gynhyrchu ym Mhorth y Rhath. Pob lwc i Ben yn ei yrfa, fydd yn yrfa hir a llewyrchus, dwi’n siŵr. Mae Camu Fyny fel rhaglen, unwaith eto, yn profi, nad yw cefnogaeth Sgil Cymru yn gorffen gyda’ch cwrs cyntaf.

Mae Camu Fyny 2017 bellach wedi dod i ben. Os hoffech chi fod yn rhan o’n rhaglenni Camu Fyny yn y dyfodol plis rhestrwch eich diddordeb, gan gynnwys y swydd hoffech chi gamu fyny i, trwy ebostio help@sgilcymru.com.

I dderbyn y newyddion diweddaraf o ran ein rhaglenni Camu Fyny yn y dyfodol arwyddwch lan i dderbyn ein cylchlythyr diwydiant.