Jess yn camu fyny!

Cafodd tîm Sgil Cymru’r cyfle i ymweld ȃ un o cgfranogwyr Camu Fyny; Jess Fothergill. 

Dechreuodd Jess ei gyrfa yn yr Adran  Wisgoedd trwy gwblhau gradd Lluniad Gwisgoedd. Yn ystod ei hamser yn y Brifysgol, cafodd Jess y cyfle i gwrdd â phobl oedd  yn gweithio o fewn y diwydiant, a gwariodd ei Haf yn gweithio ar amryw o gynyrchiadau fel profiad gwaith.

Ar ôl gweithio fel person Gwisgoedd wrth-law am flynyddoedd, teimlodd Jess, a’i phenaethiaid adran, ei  bod hi’n amser i ‘gamu fyny’.

Tra o dan y faner Camu Fyny, gweithioedd Jess fel Goruchwyliwr Gwisgoedd ar y rhaglen Jamie Johnson ar CBBC. Dyma’r tro cyntaf i Jess weithio fel Goruchwyliwr Gwisgoedd, a diolch i Gamu Fyny, mae hi wedi gallu cymryd yr amser i gysgodi Goruchwylwyr Gwisgoedd eraill er mwyn sicrhau ei bod hi’n dysgu’r swydd yn llawn..

O ddydd i ddydd, cyfrifoldeb Jess oedd i sicrhau bod y gwisgoedd i gyd yn barod ar gyfer yr artistiaid ac yn barod ar gyfer diwrnod o ffilmio. Mi oedd Jess yn sicrhau bod pawb gyda phopeth maen nhw angen ar gyfer y set. ac wedi’r ffilmio orffen  am y diwrnod, mi oedd Jess yn treulio’i amser yn paratoi gwisgoedd ar gyfer y diwrnod nesaf.

Mae ffilmio Jamie Johnson wedi dod i ben nawr ac mae Jess ‘di gael cynnig, ac wedi derbyn, cytundeb fel Goruchwyliwr Gwisgoedd ar Casualty.

Dywedodd Jess bod yr holl brofiad o ‘gamu fyny’ wedi bod yn aruthrol  ond yn bleserus. 

“Mae wedi bod mor ffantastig. Mae Camu Fyny yn eich  helpu chi i wneud rhywbeth gwahanol. Mae wedi gwneud byd o wahaniaeth i mi”