Prentis i Asiant, Stori Gabriella

Dechreuodd Gaby Gardner ei phrentisiaeth yn 2013, ar Brentisiaeth lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol. Roedd Gaby, 21 o Barri, yn gweithio fel Prentis Cynorthwy-ydd Castio ar gyfer asiantaeth castio yng Nghaerdydd, Regan Management (a elwid gynt yn Regan Rimmer Management).

Cyn y brentisiaeth mynychodd Gaby 6ed Dosbarth Barri lle bu’n astudio Astudiaethau Theatr, Ffilm a Cherddoriaeth am lefelau A. Trwy gydol ei hamser yn yr ysgol cafodd Gaby trafferth gyda’i hyder. Roedd gan Gaby diddordeb yn y diwydiannau creadigol a gwelodd Gaby y brentisiaeth fel cyfle gwych i adeiladu ei hyder, cwrdd â phobl newydd a chreu gyrfa mewn diwydiant sy’n enwog am fod yn anodd i dorri i mewn i. Ar ôl cael y swydd cymerodd Gaby y cam mawr ac penderfynodd gadael yr ysgol.

Fel Prentis Cynorthwy-ydd Castio, Gaby oedd yn gyfrifol am fwcio actorion ar gyfer sesiynau castio, cynnal cronfeydd data, ffilmio clyweliadau actorion a mynd a’r ffilm i’r Cyfarwyddwyr. Roedd yn hanfodol i Gaby i fod yn y gyfarwydd efo talent newydd drwy ymweld â’r theatr gyda’r nos yn ogystal â mynychu arddangosfeydd. Ar ben hyn roedd Gaby yn gweithio’n rheolaidd allan o’r swyddfa yn Llundain.

Yn ystod ei phrentisiaeth gweithiodd Gaby ar y cynhyrchiad Theatr na nÓg ‘Tom The Musical’, ffilm nodwedd Kevin Allen (fFati fFilms) ‘Under Milk Wood’ yn ogystal â nifer o gynyrchiadau Clwyd Theatr Cymru. O ganlyniad o weithio ar brosiectau mawr a gorfod delio â nifer o bobl yn ddyddiol, tyfodd hyder Gaby yn sylweddol.

Ar ôl cwblhau ei brentisiaeth yn 2014, cynigiwyd swydd amser llawn i Gaby fel Asiant Cynorthwyol gyda Regan Management. Ers hynny mae hi wedi parhau i weithio gyda’r asiantaeth, a efo’i hyder newydd mae Gaby nawr yn setio lan swyddfa newydd Regan Management yn Bryste. Ar hyn o bryd mae Gaby yng nghanol gwrdd gydag actorion lleol a chwmnïau cynhyrchu er mwyn adeiladu rhestr o clientiaid ym Mryste.

Dywedodd Gaby:

Mae’r staff Sgil Cymru wedi fy helpu i ddarganfod ochr wahanol i’r diwydiant. Y benderfyniad i gwblhau fy mhrentisiaeth oedd y peth gorau y gallwn i fod wedi gwneud. Mae e wedi agor cymaint o ddrysau a dwi wedi gwneud cymaint o gysylltiadau o fewn y diwydiant. Rwy’n ddiolchgar iawn i Sue a’r tîm am eu cefnogaeth a’r cymorth y maent yn parhau i roi. Yr wyf wrth fy modd yn gwybod eu bod nhw dal efo ddiddordeb yn yr hyn rwy’n ei wneud ac rwy’n gwybod y gallaf droi i Sgil Cymru ar unrhyw adeg. Dwi’n argymell prentisiaethau i unrhyw un sy’n awyddus i ennill a dysgu yn y gwaith!

Yn Dathliad Sgil Cymru ym mis Mawrth 2017, enillodd Gaby Gwobr Cyflawniad Eithriadol Creative Risk Solutions Ltd. Enillodd Gaby y wobr hon i nodi llwyddiant rhagorol hi yn y diwydiant ar ôl iddi cwblhau ei brentisiaeth.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud prentisiaeth? Ydych chi eisiau ennill a dysgu ar yr un pryd? Bydd Sgil Cymru yn recriwtio eto yr Haf yma, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn llofnodi i dderbyn ein cylchlythyr ac yn cadw llygad ar ein Facebook a Twitter ar gyfer yr holl newyddion diweddaraf.

Neu os oes gennych ddiddordeb mewn cyflogi prentis, plis cysylltwch efo ni ar 07843 779 870 a/neu ebostio ni ar help@sgilcymru.com.