Diweddglo: Cwrs Golygu Sgript – gan Mali Tudno Jones

Mae ‘na gwpwl o wythnosau ers i ni gyd gwblhau’r cwrs golygu sgript ar-lein gyda Sgil Cymru, BBC Writersroom, Anna Seifert Speck a Kate Leys.

 

Yn ein sesiwn olaf edrychon ni ar ysgrifennu TRINIAETH…urgh…rhywbeth sy’n ymddangos fel pe bai’n cael ei gasáu gan bawb. Wedi dweud hynny, erbyn diwedd y sesiwn roeddwn i’n deall yn llawer gwell pam eu bod yn angenrheidiol a sut mewn gwirionedd gall triniaethau fod yn ganllaw pwysig, gan helpu i hyrwyddo a hybu unrhyw syniad newydd.

 

Yn lle ei drin fel ôl-ystyriaeth, mae triniaeth yn gofyn am yr un trylwyredd ag ysgrifennu’r sgript ei hun. Mae angen i chi dreulio amser yn cloddio am y stori nes bod y driniaeth yn gallu ei chario’n hyderus. Mae triniaethau’n anodd, maen nhw’n dod a phroblemau i’r amlwg a dyna’n union pam mae angen eu gwneud.

 

Mae triniaeth yn ddogfen waith; mater i’r awdur, y cynhyrchydd neu’r sawl sy’n datblygu’r syniad i ddarganfod yn union beth yw’r stori…yn ogystal â’i defnyddio i ddenu sylw at eich ffilm. Er gwaethaf llawer o farnau, nid oes diffiniad ffurfiol o beth yw triniaeth – mae pawb yn ei wneud yn wahanol. Os ydych chi’n gorfod anfon triniaeth at gwmni, mae’n werth gofyn beth maen nhw’n ei ddisgwyl o’ch dogfen, pa mor hir fydden nhw’n ei hoffi, beth sydd angen iddo ei ddweud?

 

Ond mae yna un rheol: dywedwch y stori bob amser.

 

Mae angen i driniaeth fachu sylw’r darllenwr felly gwnewch hi’n atgofus – meddyliwch amdani fel rhannu stori fer o amgylch y tân gwersyll. A pheidiwch ag ofni symlrwydd na dod â bywyd emosiynol y darn allan.

 

Mae triniaethau yn profi effeithiolrwydd a dilysrwydd y naratif, gan ysgogi eglurder a datgelu gwendidau. Maent yn sylfaenol i’r broses o wneud eich syniad y gorau y gall fod er mwyn symud ymlaen yn llwyddiannus i’r cam nesaf.