✨Neithiwr, bu Jacob Page – un o brentisiaid CRIW blwyddyn diwethaf, yn derbyn Gwobr Diwydiannau Creadigol yn Gwobrau Prentisiaeth Coleg Caerdydd a’r Fro.
Yn ystod ei brentisiaieth, gweithiodd Jacob ar Craith/Hidden 3, Y Gyfrinach a Y Golau/The Light in the Hall yn yr adrannau Celf a Chynorthwywyr Cyfarwyddo.
Parhaodd Jacob i weithio ar gynhyrchiad Y Golau/The Light in the Hall ar ol i’r brentisiaeth ddod i ben ac ers hynny mae wedi gweithio ar Wolf, Pobol y Cwm, Casualty a’r Lazarus Project. Mae wedi gweithio gyda Pobol y Cwm am 6 mis yn barod, ac mae’n dechrau nol gyda nhw ar ddiwedd mis Chwefror 2023 gyda ddyrchafiad i 2il AD.
Llongyfarchiadau mawr Jacob!
Mae ceisiadau ar agor NAWR ar gyfer prentisiaeth CRIW!
Mwy o wybodaeth yma ⬇️
https://www.sgilcymru.com/cy/criw-2/
Dyma luniau o’r noson!