Mae Sgil Cymru yn falch o gyhoeddi bod Matt Redd ac Owain Carbis wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021. Mae Matt Redd yn asesydd gyda Sgil Cymru ac yn rownd derfynol categori Dysgu Seiliedig ar waith, tra bod Owain, sy’n brentis gyda BBC Cymru Wales, wedi cyrraedd rownd derfynol Prentis y Flwyddyn. Mae’r gwobrau’n agored i bob sector sy’n gweithio o fewn prentisiaethau ledled Cymru, ac fe’u trefnir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddi Cenedlaethol Cymru (NTfW).
Mae Matt Redd wedi bod yn gweithio’n llawrydd gyda Sgil Cymru ers ffurfio’r cwmni, gan weithio ar draws nifer o gynlluniau hyfforddi, tra hefyd yn gweithio ym maes teledu a ffilm fel awdur a chynhyrchydd. Mae ganddo ugain mlynedd o brofiad yn y diwydiannau creadigol mewn amryw o rolau, gyda chredydau gan gynnwys DOCTOR WHO, CASUALTY, a’r ffilm nodwedd THE TOLL, bydd yn ymddangos am y tro cyntaf ar Chwefror 26ain yng Ngŵyl Ffilm Glasgow. Ysgrifennodd Matt y sgript ac mae hefyd yn cael ei gredydu fel cynhyrchydd cyswllt ar y ffilm.
Yn ddiweddar, cwblhaodd Owain Carbis, 19 oed, brentisiaeth lefel 3 gyda Sgil Cymru wrth weithio gyda BBC Cymru yn yr adran Ddigidol a Marchnata, ac ers hynny mae wedi cael ei gyflogi gan y BBC i weithio yn eu tîm drama ddigidol. Gwelwyd ei waith yn fyd-eang ar gyfryngau cymdeithasol y BBC, ac mae hefyd wedi creu cynnwys digidol trwy ei waith fel un o’r pum Llysgennad Prentisiaeth Cymraeg eu hiaith gyntaf i gael eu penodi erioed. Mae Owain yn gyn-fyfyriwr i IntoFilm lle trefnodd sesiynau Holi ac Ateb gyda sêr gan gynnwys Rhys Ifans ac Iwan Rheon.
Daw’r newyddion cyffrous hyn yn ystod yr wythnos lle mae Sgil Cymru wedi recriwtio deg prentis newydd ar gyfer CRIW, y cynllun newydd arloesol a fydd yn gweld prentisiaid yn gweithio ar nifer o wahanol gynyrchiadau trwy gydol blwyddyn yn y diwydiant, gan efelychu’r profiad llawrydd, gyda chefnogaeth Tîm Sgil Cymru.
Mae Sgil Cymru yn dymuno pob lwc i Matt ac Owain yn y seremoni wobrwyo, a gynhelir ar Ebrill 29ain.