Mae Jane Gruffydd, o Fro Morgannwg, wedi newydd gwblhau cwrs dwys ‘Arolygydd Sgript’ Sgil Cymru a barodd am bythefnos ym mis Tachwedd 2016.
Ar ôl gyrfa gryno yn y diwydiant teledu fel Cynhyrchydd/Ymchwilydd/Cynorthwy-ydd, fe weithiodd Jane fel athrawes ysgol uwchradd am bymtheg mlynedd. Er hyn, oedd Jane yn awyddus i ddod nôl i weithio mewn swydd yn y diwydiant teledu a ffilm, gan deimlo y byddai ei diddordebau yn fwy addas mewn rôl ac awyrgylch creadigol.
Trwy enw da ei mam (a oedd PA/Goruchwyliwr Sgript am bum deg pum blwyddyn) fe gafodd Jane swydd fach ar set rhaglen y BBC ‘Decline and Fall’ gyda’r cyfrifoldeb ‘2nd Unit Script Supervisor.’
Dywedodd Jane:
Pan ddaeth y cynhyrchiad i ben, roeddwn ar goll wrth drio fendio gwaith yn y diwydiant creadigol, er fod gen i brofiad gwaith a chredyd ar fy CV, ac roedd gen i lawer i’w gynnig. Wedi cais ar ôl cais i gael swydd gradifol, roedd hi’n amlwg nad oedd gen i ddigon o brofiad, ac yn ogystal â hyn roedd fy oed yn fy erbyn i.
Cyn hir, penderfynodd Jane wneud cais i’r cwrs ‘Arolygydd Sgript’ yn Sgil Cymru, i geisio adeiladu ar ei sgiliau a’i chefndir yn y diwydiant creadigol.
Mae cwrs ‘Arolygydd Sgript’ Sgil Cymru yn cael cymorth ariannol gan Creative Skillset a’r BFI, ac yn un o’r cyrsiau newydd sydd yn ceisio helpu pobl broffesiynol i ymarfer eu sgiliau. Roedd y cwrs gymerodd Jane yn bara pythefnos i gyd, ac yn cael ei arwain gan Sue Jeffries a Ceri Evans Cooper, ac roedd yn cyflwyno gweithdai, trafodaeth a chyflwyniadau gan bobl broffesiynol yn ogystal â phum diwrnod o brofiadau ymarferol.
Parhaodd Jane:
Mae’r cwrs wedi ei angori, ac wedi cyflwyno pob agwedd o swydd y Goruchwyliwr Sgript. Roedd yn help mawr fod gan Sue a Ceri â gymaint o brofiad yn y diwydiant. Roedd y siaradwyr gwadd hefyd yn bobl efo blynyddoedd o brofiad oedd ag enw da iawn o fewn y diwydiant anodd hwn. Gan fod y cwrs yn cyfuno gweithgareddau proffesiynol ac ymarferol ac elfennau sydd yn anodd dod o hyd iddynt mewn dinas fach, roedd yn hynod o werthfawr i rywun sydd am weithio mewn diwydiant mor fawr.
Roedd ymarferion y cwrs yn grêt i mi. Roeddent yn fy helpu i lenwi’r gwagle yn fy mhortffolio. Mae hi’n bwysig ymarfer eich sgiliau mewn awyrgylch saff, ac i wneud popeth o dorri sgript lawr, i weithio tuag at greu sgrip dda sydd yn haeddu ei darlledu.
Roedd y gwaith stiwdio, lle oeddem yn ymarfer tuag at weithio mewn stiwdio go iawn, yn ardderchog.
Ar ddiwedd y cwrs, treuliodd Jane chwe mis yn edrych at rolau sgript tu fewn i’r diwydiant. Gan fod cymaint o amser wedi pasio, roedd Jane yn dechrau cwestiynu ei hun, os oedd yna le iddi hi yn y diwydiant. Wedi bron iawn i saith mis heb waith clywodd Jane gan gwmni cynhyrchu Cymraeg. Roedd y ffaith ei bod hi’n siarad y Gymraeg yn factor gref iddi gael y swydd, ac fe aeth geirda gan Sue a hi ymhell hefyd.
Mae Jane yn gorffen gyda’r casgliad:
Mae’n hawdd colli hyder ac angerdd yn gweithio mor galedi drio dilyn swydd yn y busnes creadigol, ond, mae dyfalbarhad a dycnwch yn werth y gwaith caled yn y diwedd.
Ychwanegodd Sue Jefferies, o Sgil Cymru:
Mae Jane yn enghraifft dda o berson proffesiynol sydd a’r cefndir iawn ond efo diffyg yn y profiad sydd ei angen i adnewyddu eu sgiliau mewn awyrgylch bositif a saff. Mae’n braf fod Jane yn cydnabod yr help gafodd hi gan Sgil Cymru, a bod cwrs hollol ymarferol yn gallu bod o help i unrhyw unigolyn uchelgeisiol fel Jane ail gydio yn ei gyrfa.