Llwyddiant i 26 Prentis Creadigol

Media Apprentices 2016-17

Rydym yn hynod o hapus i gyhoeddi bod ein prentisiaid lefel 3 a lefel 4 wedi pasio eu prentisiaethau. 

Yn Medi 2016 dechreuodd 18 prentis ar raglen Brentisiaeth Lefel 3 Cyfryngau Creadigol a Digidol gyda Sgil Cymru. Cwblhaodd y prentisiaid flwyddyn o weithio yn y diwydiannau creadigol wrth weithio i gwmni creadigol. Roedd y cyflogwyr yn cynnwys BBC Cymru Wales, Cardiff Theatrical Services, ITV Cymru Wales, Real SFX a S4C.

Yn ogystal â’r prentisiaid lefel 3, mae Sgil Cymru wedi croesawu 8 prentis ar Brentisiaeth Lefel 4 Cyfryngau Creadigol a Digidol (Llwybr Rhyngweithiol) a Phrentisiaeth Lefel 4 Hysbysebu a Chyfathrebu Marchnata. Dros y rhaglen 15-mis gweithiodd y prentisiaid yn llawn amser gyda chwmni o fewn y diwydiannau creadigol mewn rôlau marchnata, ar-lein, rheoli digwyddiadau a golygu. Roedd y cyflogwyr yn cynnwys Amplified Business Content, Buzz, Equinox, Golley Slater, IT Pie, Lubas Medical a White Hart Multimedia.

Ers gorffen eu prentisiaeth mae rhan fwyaf o’r prentisiaid wedi parhau i weithio o fewn y diwydiannau creadigol. Dyma esiamplau o beth mae’r prentisiaid wedi bod yn gwneud ers gorffen:

Dominic Farquhar – Prentis Grip, BBC Cymru Wales

Yn syth ar ôl i fi gwblhau fy mhrentisiaeth gweithiais i ar floc o Casualty. Yn dilyn hyn weithiais i gwpl o ddiwrnodau ar Marcella yn Llundain ac wedyn symudais ymlaen i weithio ar ddrama BBC Cymru Wales a S4C o’r enw Craith.

Laura Thorne – Prentis Cynhyrchu, BBC Cymru Wales

Rydw i nawr yn gweithio i Object Matrix, cwmni sydd yn gweithio ar y cyd gyda BBC, ITV a Disney ac yn darparu gwasanaethau golygu/archifo ar gyfer cwmnïau cynhyrchu ag ôl gynhyrchu. Dwi’n gyfrifol am eu gwaith marchnata ar gyfer y DU, Ffrainc, UDA a Sbaen sydd wedi fy nghaniatau i deithio. Rwyf hefyd yn llysgennad prentis sydd yn meddwl y byddai’n dychwelyd i’m ysgol uwchradd mis nesaf i siarad am fy mhrofiadau.

Jaimie Warburton – Prentis Datblygwr We, IT Pie

Ers cwblhau fy mhrentisiaeth rwyf wedi parhau i weithio i IT Pie fel Datblygwr We llawn amser.

Dwedodd Sue Jeffries, Rheolwr Gyfarwyddwr Sgil Cymru:

Gyda balchder mawr mae Sgil Cymru yn cyflwyno 26 o bobl ifanc newydd i’r diwydiant. Mae nhw i gyd wedi cwblhau eu fframweithiau yn llwyddiannus, ac maent yn y cyfnod cyffrous hwnnw o ddechrau ar y daith i’r dyfodol.

Edrychwn ymlaen at ddathlu llwyddiant y prentisiaid nos Iau 25ain o Ionawr yn Pinewood Studio Cymru.

Os ydych chi’n edrych am aelod iau o staff o fewn y diwydiannau creadigol, cysylltwch â Sgil Cymru ar help@sgilcymru.com i weld sut gall gynllun prentisiaeth gweithio i chi.