Matt Redd – Asesydd y Flwyddyn 2021

Llongyfarchiadau enfawr i Matt Redd am ennill Asesydd y Flwyddyn 2021, Dysgu Seiliedig ar Waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021!

Cafodd y seremoni ei gynnal ar YouTube Llywodraeth Cymru, gyda Wynne Evans yn cyflwyno. Mae’r gwobrau’n agored i bob sector sy’n gweithio o fewn prentisiaethau ledled Cymru, ac fe’u trefnir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddi Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Mae Matt Redd wedi bod yn gweithio’n llawrydd gyda Sgil Cymru ers ffurfio’r cwmni, gan weithio ar draws nifer o gynlluniau hyfforddi, tra hefyd yn gweithio ym maes teledu a ffilm fel awdur a chynhyrchydd. Mae ganddo ugain mlynedd o brofiad yn y diwydiannau creadigol mewn amryw o rolau, gyda chredydau gan gynnwys DOCTOR WHO, CASUALTY, a’r ffilm nodwedd THE TOLL.

Llongyfarchiadau hefyd i Owain Carbis am gyrraedd rhestr fer Prentis y Flwyddyn am ei waith gyda’r BBC.