Prentis Technegol Aml Fedrus – ITV Cymru Wales

Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi heibio.

Cwmni:                        ITV Cymru Wales
Rôl Prentisiaeth:      Prentis Technegol Aml Fedrus
Lleoliad:                      Caerdydd

Am y Sefydliad

Qm5Rg9C23qnlUS2BpsVMqbcK8XvT0p5PVCQBZxPiJtMITV Cymru Wales yw gwyneb ITV yng Nghymru. Rydym yn rhan o ddarlledwr masnachol rhad ac am ddim-i-awyr mwyaf poblogaidd y DU – cartref i rai o sioeau mwyaf ar y teledu. O’n canolfan  newydd ym Mae Caerdydd, rydym yn cynhyrchu pedair awr o newyddion , chwaraeon a’r tywydd, yn ogystal â 90-munud o faterion cyfoes a rhaglenni ffeithiol bob wythnos, sydd yn cael eu darlledu yn bennaf yn ystod oriau brig. Mae ein gwefan newyddion yn parhau i dyfu mewn poblogrwydd ac yn cynyddu ein cyrhaeddiad ymhlith defnyddwyr ‘smartphone’ a thabled. Mae gennym hefyd berthynas fasnachol lwyddiannus gydag S4C, gan gynhyrchu materion cyfoes ac allbwn ffeithiol ar gyfer y sianel.

Disgrifiad Swydd

I gefnogi’r tîm rhaglenni yn ITV Cymru Wales fel cynorthwyydd nad yw’n olygyddol, bydd y rôl yn cynnwys golygu  sylfaenol, rheoli  deunydd a dysgu sut i drefnu biniau, logio deunydd, gan helpu i reoli cyfryngau a chreu metadata, sain ac effeithiau graffig.

Bydd y swydd hefyd yn cynnwys prosesu fformatau drwy’r system, gan helpu i lwytho rhaglenni ar wefan ITV ac S4C. Gallai hefyd olygu cefnogi’r tîm cynhyrchu ar leoliad yn ôl yr angen.

Bydd angen i ymgeisydd llwyddianus gydweithio gyda Chynhyrchwyr, Newyddiadurwyr ac Ymchwilwyr.

  • Ffynhonnellu, amlyncu a logio ffilm, yn ôl y gofyn.
  • Cynorthwyo’r llwytho cynnwys ITV ar-lein yn ôl yr angen.
  • Prosesu deunydd ‘go-pro’ a mathau eraill o ddeunydd i mewn i’r system yn barod ar gyfer golygu.
  • Cefnogi gwir olygu o raglenni a deunydd hyrwyddo i safon uchel iawn, gan ddefnyddio’r HD diweddaraf, technolegau golygu digidol, llif gwaith a thechnegau.
  • Helpu i ddosbarthu a rhannu cynnwys ar draws Newyddion a Rhaglenni a rhwng swyddfeydd ITV eraill.
  • Cynorthwyo’r tîm rhaglenni gyda offer camera yn ôl yr angen, ac o bryd i’w gilydd helpu’r tîm ar y ffordd gyda ffilmio.

Cyfrifoldebau Tîm a Rennir

  • Dysgu a datblygu sgiliau newydd yn ôl yr angen er mwyn eich galluogi i gyflawni unrhyw dasgau rhesymol a ofynnir i chi, ac yr ydych wedi cael hyfforddiant anffurfiol neu ffurfiol priodol; achanfodyn rhagweithiol ffyrdd i hyrwyddo a chynnal dull aml-sgiliau. Datblygu sgiliau ar draws cynhyrchu digidol ac ar-lein yn ôl yr angen.
  • Sicrhau gweithrediad tra’n gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael o fewn y gyllideb gan sicrhau bod yr holl waith yn cydymffurfio â’r holl ganllawiau pethnasol i ITV  a / neu   Deall a gweithredu ar bolisïau Iechyd a Diogelwch ac Asesu Risg ITV.
  • Gweithio’n agos ac yn barchus â phob aelod o’r timau golygyddol a chynhyrchu, yn lleol ac yn y teulu ITV ehangach, i weithredu’r strategaeth olygyddol gyffredinol, gan sicrhau bod gwerthoedd ITV yn cael eu dilyn.
  • Gweithio’n agos ac yn rhagweithiol â’r ystafell newyddion ITV Wales, ystafelloedd newyddion ITV eraill, gan gynnwys Rhanbarthol, Rhwydwaith, Daybreak, tîm Rhaglenni Iaith Cymraeg a Saesneg ac a ITV.com.  Meithrin a chynnal cysylltiadau er budd ITV News yn ei chyfanrwydd, gan gyfrannu i brosiectau a fforymau, a mentrau ategol yn ôl y gofyn.

Oherwydd natur ein cynhyrchiadau, efallai y bydd achlysuron pan fydd angen i chi weithio oriau hir ac anghymdeithasol ar fyr rybudd.

Cymwysterau/Tystysgrifau Proffesiynol Syd Eu Hangen

Nid oes angen cymwysterau ffurfiol ar gyfer y rôl hon, ond mae gofyn i chi fod â diddordeb mewn cynhyrchu teledu – byddai rhywfaint o brofiad o feddalwedd golygu o fantais.

Galluoedd a Nodweddion Sydd Eu Hangen

  • Byddwch yn unigolyn brwdfrydig a thalentog sydd â diddordeb mewn golygu o’r safon uchaf mewn HD.
  • Bydd gennych ddiddordeb mewn gwaith camera.
  • Byddwch wedi ymrwymo i ddysgu a gweithio fel rhan o dîm aml-sgil llwyddiannus.
  • Byddwch yn barod i rannu eich sgiliau a phrofiad gyda phobl eraill er budd cyffredinol y tîm a’r allbwn
  • Byddwch yn gyfeillgar yn barchus o’ch holl gydweithwyr ITV a bydd gennych y gallu i gynnal agwedd gadarnhaol, hyd yn oed pan o dan bwysau, gan weithio i derfynau amser neu mewn amgylchedd byw.
  • Byddwch yn gyson effro at y nod cyffredin, gan ddangos hyblygrwydd ,y gallu i addasu a blaenoriaethu ar fyr rybudd
  • Byddwch yn gyfathrebwr da sydd a hunan gymhelliant a meddwl cyflym gyda sgiliau gwneud penderfyniadau cadarn a phendant

Profiad Gwaith Angenrheidiol

Bydd yn fantais os oes gennych ddealltwriaeth o agweddau ar olygu a ffilmio HD gan ddefnyddio fformatau camera gwahanol.

Fframwaith

Tra’n gweithio i ITV byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 12 mis Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol.