Croesawu ein Prentisiaid CRIW 2021 yng ngogledd Cymru  

Dywedwch helo i Tomos o Dalysarn, Seb o’r Rhyl, Eleri o Gaernarfon, Ryan o Harlech, Elin o’r Felinheli a Chloe o Brestatyn. 

Croesawodd Sgil Cymru 6 prentis creadigol newydd y mis yma. Bydd pob prentis yn cwblhau eu cymhwyster gyda Sgil Cymru, tra’n gweithio am flwyddyn i gwmniau gwahanol ar draws gogledd Cymru.  

Mae Prentisiaeth CRIW yn gyfle ardderchog i bobl ddod mewn i’r diwydiant, ac i gael blas ar sut mae’r sector wir yn gweithio, gan y bydd y prentis yn symud o gwmni i gwmni, yn ddibynnol ar hyd y cynhyrchiad. 

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden: “Mae buddsoddi mewn mentrau sy’n annog doniau a sgiliau ar draws Cymru yn flaenoriaeth allweddol i Cymru Greadigol. Trwy wneud hyn rydym yn cyfrannu at ddiwydiannau creadigol llewyrchus Cymru, gan sicrhau bod digon o weithwyr yn y 

diwydiant a chan gyfrannu at greu cyfleoedd gwaith hirdymor a chynaliadwy i bobl ifanc sy’n dymuno dilyn gyrfa yn y sectorau creadigol. Hoffem ddymuno pob lwc i Tomos, Seb, Eleri, Ryan, Elin a Chloe wrth iddynt gymryd y cam cyffrous hwn.” 

Dywedodd Aled Jones-Griffith, Pennaeth Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Menai: 

‘Mae Gogledd Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran cynyrchiadau cyfrwng Cymraeg ers blynyddoedd lawer, ac rydym yn ymfalchïo’n fawr yn ein cynyrchiadau cartref, ac felly rydyn yn falch iawn bod cynllun Prentis CRIW wedi ymestyn i ogledd Cymru. 

Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi bod yn gyrru’r agenda ar gyfer datblygu darpariaeth prentisiaethau cyfryngau yn lleol ers nifer o flynyddoedd, a nawr drwy’r cynllun hwn rydym yn edrych ymlaen at chwarae ein rhan wrth greu cronfa o weithwyr proffesiynol technegol a fydd yn gweithio yn y diwydiant am flynyddoedd i ddod. Mae talent o’r fath yn hanfodol os am dyfu a datblygu’r diwydiant rhanbarthol bwysig hwn ymhellach. 

Hoffwn achub ar y cyfle i ddymuno’r gorau i Brentisiaid CRIW ar gyfer y dyfodol a diolch i SgilCymru a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth gyda’r ddarpariaeth gyffrous hon.’ 

Dywedodd Sue Jeffries, Rheolwr Gyfarwyddwr Sgil Cymru

‘Mae Sgil Cymru yn hynod o falch o fedru tyfu trwy ddod a CRIW i’r gogledd. Ein uchelgais erioed yw cynnig gwasanaeth i Gymru gyfan, a chyda’r CRIW diweddara, rydym ar ein ffordd.’

Rydym yn edrych ymlaen ar hyfforddi ein grŵp cyntaf Prentisiaid yn gogledd Cymru!  

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cyflogi Prentis CRIW? Ffoniwch y swyddfa ar 07843 779 870 neu cliciwch y linc yma am fwy o wybodaeth!  

Am Sgil Cymru

Wedi’i leoli yn Great Point Seren Stiwdios (Stiwdio Pinewood Cymru gynt) yng Nghaerdydd, mae gan y tîm fwy na 100 mlynedd o brofiad mewn hyfforddiant a chynhyrchu dwyieithog yn y cyfryngau rhyngddynt. Mae aelodau o dîm Sgil Cymru wedi hyfforddi dros 120 o brentisiaid trwy gyd-weithio gyda chwmnïau ar draws de Cymru, gan gynnwys BBC Cymru Wales, BBC Studios, EquinoxCommunications, Golley Slater, ITV Cymru Wales, Real SFX, AmplifiedBusiness Content, Boom Cymru, Severn Screen acS4C. Trwy bartneriaeth gyda ScreenSkills, Screen Alliance Wales, Urdd Gobaith Cymru, ac eraill, mae Sgil Cymru yn cyflwyno pecynnau o gyrsiau hyfforddi ar gyfer y diwydiant ffilm a theledu yn y DU.