Llwyddiant gwych i Brentisiaid Cyfryngau

media apprenticeships in wales

Efallai’ch bod chi’n cofio darllen am brentisiad cyntaf Sgil Cymru, wnaeth gwblhau eu prentisiaeth ym mis Medi, 2016. Mae Sgil Cymru’n falch o gyhoeddu, bod y garfan wedi cyflawni canran pasio o 90%, gyda phob prentis nawr yn gweithio o fewn y diwydiannau creadigol neu wedi symud ymlaen at addysg uwch, mae pob un ohonynt wedi gosod y sylfeini ar gyfer gyrfa llwyddianus.

Dywedodd Sue Jeffries, Rheolwr Gyfarwyddwr Sgil Cymru,

“Mae’r gradd basio rhyfeddol yma, yn dyst i’r holl waith called mae’r prentisiaid wedi cwblhau dros ddeuddeg mis y prentisiaeth. Dyw hi ddim yn gyfrinach bod cael eich troed yn nrws y diwydiant hon yn gallu bod yn annodd iawn, ond mae’r prentisiaid yma wedi creu’r dechread gorau posib i’w gyrfaoedd, a dwi’n falch iawn ohonynt.”

 

Ar hyn o bryd, mae gan Sgil Cymru dau-ddeg-chwech o brentisiaid yn gweithio o fewn y diwydiannau creadigol yn Ne Cymru, gyda phob un yn cwblhau prentisieth lefel tri neu lefel pedwar, tra’n gweithio i ddarlledwyr fel BBC Cymru Wales, ITV Wales ac S4C, yn ogystal a chwmnioedd llai gan gynnwys Amplified Business Content, Equinox Communications a Real SFX.

Os ydych chi’n edrych am aelod iau o staff o fewn y diwydiannau creadigol, cysylltwch gyda Sgil Cymru ar help@sgilcymru.com i weld sut gall gynllun prentisiaeth weithio i chi.

Be the first to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published.